Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Anabledd plant

​​​Mae ein Tîm Iechyd ac Anabledd Plant yn credu bod plentyn sydd ag anabledd yn blentyn yn gyntaf oll a dylai gael ei annog a'i helpu i gael defnyddio'r un gwasanaethau a chael yr un cyfleoedd â phlant eraill heb anableddau. Rydym yn cynnig ac yn trefnu gwasanaethau ar gyfer teuluoedd y mae ganddynt blentyn neu blant sydd ag anghenion ychwanegol.


Gall yr anghenion hyn fod o ganlyniad i:

 
  • anableddau corfforol neu ddysgu
  • nam ar y synhwyrau
  • salwch cronig
 

Mae’r tîm yn gweithio mewn partneriaeth â theuluoedd ac asiantaethau eraill i ddiogelu a hybu lles plant a phobl ifanc sydd ag anableddau.

 

Os oes angen gwybodaeth neu gyngor arnoch, neu os hoffech i ni gynnal asesiad er mwyn cael gwybod am y ffordd orau y gallwn eich helpu a’ch cynorthwyo ffoniwch y Pwynt Mynediad Plant ar

 

029 2053 6490

 

Os nad yw yn ystod oriau swyddfa, ffoniwch y swyddog dyletswydd brys ar

 

029 2078 8570 

 

Gwybodaeth am wasanaethau a chymorth ar gyfer plant anabl a’u teuluoedd​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd yng Nghaerdydd.​

Cysylltu â ni

​​​

© 2022 Cyngor Caerdydd