Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Amddiffyn plant

​Mae gan blant a phobl ifanc hefyd hawl i gael eu hamddiffyn rhag niwed.

Beth i'w wneud os ydych yn poeni am blentyn​


Os ydych yn credu bod plentyn mewn perygl uniongyrchol o niwed, ffoniwch 999 a dywedwch wrth yr heddlu.

Os ydych yn credu bod plentyn mewn risg, nad yw’n derbyn gofal priodol neu fod gennych bryderon am ei les, cysylltwch â ni drwy ffonio

029 2053 6490

Y tu allan i oriau swyddfa, ffoniwch y Tîm Dyletswydd Brys ar
 
029 2078 8570 

Beth sy'n digwydd nesaf?


Os ydych yn cysylltu ar ran rhywun, bydd angen i ni ofyn ambell gwestiwn i chi am y person hwnnw, er enghraifft:
 
  • y rhesymau dros eich pryder
  • cyfeiriad cartref ac oedran neu ddyddiad geni’r plentyn
  • enwau, cyfeiriadau ac oedrannau neu ddyddiadau geni aelodau teulu’r plentyn 
  • enwau gweithwyr proffesiynol sy’n  gysylltiedig â’r teulu, megis meddyg teulu neu ysgol
  • a ydych yn credu bod perygl i ddiogelwch y sawl a aiff i ymweld â chartref y plentyn.
 
Does dim rhaid i chi wybod popeth am y person cyn cysylltu â ni. Byddwn yn ymdrechu i'ch cadw’n ddienw p’un a fyddwch yn gofyn i ni wneud hynny ai peidio. Weithiau, nid yw hyn yn bosibl oherwydd natur y wybodaeth a rowch i ni, neu oherwydd bod rhaid dwyn achos i’r llys.

Os nad ydych yn teimlo’n ddigon cyfforddus i siarad â ni, am ba bynnag reswm, dywedwch wrth rywun arall sy’n adnabod y teulu, megis athro, meddyg, nyrs neu ymwelydd iechyd.
© 2022 Cyngor Caerdydd