Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Demensia

Achosir demensia gan glefyd neu anhwylder sy’n effeithio ar yr ymennydd.


Clefyd Alzheimer yw’r math mwyaf cyffredin o ddemensia, ond mae gwahanol fathau – rhai sy’n llawer prinnach nag eraill.


Fel arfer mae symptomau’n cynnwys colli’r cof ac anawsterau wrth feddwl, datrys problemau neu gydag iaith. Maent yn gwaethygu wrth i amser fynd yn ei flaen, gan effeithio hefyd ar hwyliau ac ymddygiad pobl. Gallent ddod yn rhwystredig, pigog, pryderus, trist neu gael eu cynhyrfu’n hawdd.


Effeithir oddeutu 850,000 o bobl yn y DU gan ddemensia. Mae angen cefnogaeth a chymorth arnynt o gyfnodau cynnar y sefyllfa hon sy’n achosi iddynt fod yn agored i niwed.


Os ydych yn bryderus y gallai demensia fod arnoch chi neu ar rywun rydych yn ei adnabod, dylech fynd i’ch meddygfa leol neu cysylltwch â’r Llinell Gymorth Demensia Cenedlaethol ar 


0300 222 1122


Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ddemensia drwy fynd i wefan Caerdydd sy’n Deall Demensia​​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd​ neu wefan y Gymdeithas Alzheimer ​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd


© 2022 Cyngor Caerdydd