Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Trais domestig

​​​Gwasanaeth arbenigol Caerdydd ar gyfer menywod (a’u plant) sydd yn dioddef neu’n dianc rhag unrhyw ffurf ar drais yn erbyn menywod yw RISE​​​​​​​​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd.

Mae RISE​​​​​​​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd yn wasanaeth nad yw’n barnu ac sy’n gallu rhoi cyngor a chymorth ynghylch:

  • ​cam-drin domestig (gan gynnwys rheoli drwy orfodaeth),
  • trais rhyw a cham-fanteisio rhywiol, 
  • stelcio ac ymyrryd, 
  • masnachu pobl a chaethwasiaeth fodern, 
  • priodas dan orfod, 
  • troseddau ‘anrhydedd’, ac 
  • anffurfio organau cenhedlu benywod (FGM).

Gall RISE helpu gyda materion ymarferol i’ch cadw chi a’ch teulu’n ddiogel. Gallai hyn gynnwys gwneud eich cartref presennol yn ddiogel neu eich helpu chi i gael lle arall, diogel, i fyw.  

Os ydych yn chwilio am gymorth, gallwch gysylltu â’r gwasanaeth 24 awr y dydd, 7 niwrnod yr wythnos, ar (029) 2046 0566. 

Gall y gwasanaeth roi cymorth wyneb wrth wyneb, dros y ffôn, neu drwy sgwrsio ar-lein ar eu gwefan www.rise-cardiff.cymru​​​​​​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd

Gallwch hefyd gysylltu â RISE os ydych yn weithiwr proffesiynol sydd eisiau cyngor neu atgyfeirio rhywun.

Dioddefwyr Gwrywaidd 


Os ydych yn ddyn sy’n cael eich cam-drin yn ddomestig a/neu sy’n dioddef trais rhywiol gallwch chithau hefyd ddefnyddio gwasanaeth RISE​​​​​​​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd

Neu gallwch gysylltu â Phroject Dyn, sy’n rhoi cyngor a chymorth cyfrinachol i ddynion yng Nghaerdydd sydd wedi cael profiad o gamdriniaeth ddomestig. 


Mae’r gwasanaeth ar agor ddydd Llun a dydd Mawrth o 10.00am tan 4.00pm a dydd Mercher 10.00am tan 1.00pm.

Trais Rhywiol 


‘Ynys Saff’ yw Canolfan Atgyfeirio Ymosodiadau Rhyw (SARC) y rhanbarth. Mae ei  gweithwyr proffesiynol profiadol, sydd oll wedi eu hyfforddi, yn rhoi cyngor, cymorth a chefnogaeth i ddynion, menywod, plant a phobl ifanc, yn sgil ymosodiad rhyw.  Maen nhw’n gweithio o Ysbyty Brenhinol Caerdydd ac mae modd cysylltu â nhw ar 029 2033 5795.

Mae Llwybrau Newydd/New Pathways yn wasanaeth nad yw’n barnu ac sy’n rhoi cymorth cwnsela i bobl sydd wedi dioddef trawma, yn enwedig drwy drais rhywiol neu gamdriniaeth rywiol. Cysylltwch â nhw ar (01685) 379 310 neu enquiries@newpathways.org.uk

Llinell Gymorth Byw heb Ofn 


Mae llinell gymorth Byw heb Ofn yn wasanaeth 24 awr dwyieithog sy’n weithredol ledled Cymru. Llywodraeth Cymru sy’n ei gyllido, ac mae ar gael i unrhyw un y mae camdriniaeth yn effeithio arni neu arno.

Gall y llinell gymorth roi cyngor a chymorth i’r rhai yr effeithir arnyn nhw’n uniongyrchol, teuluoedd a ffrindiau sy’n poeni am rywun, cyflogwyr a gweithwyr proffesiynol eraill.

Gellir cysylltu â nhw ar 0808 80 10 800 neu drwy wefan Byw Heb Ofn​​​​​​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd  

Cofiwch: Os ydych mewn perygl yn syth, ffoniwch 999. 


I gyflawni’r gofynion cyfreithiol sydd arnom ac i gefnogi’r Strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol genedlaethol, mae sefydliadau statudol ac arbenigol Caerdydd a Bro Morgannwg wedi creu strategaeth ranbarthol 2018-2023 o’r enw ‘Yn Ein Dwylo Ni’.

Mae’n ymdrin â:

  • cham-drin domestig, 
  • trais rhywiol, 
  • cam-fanteisio rhywiol (gan gynnwys drwy’r diwydiant rhyw), 
  • caethwasiaeth fodern, 
  • priodas dan orfod, 
  • anffurfio organau cenhedlu benywod (FGM), 
  • cam-fanteisio’n rhywiol ar blant (CSE), 
  • stelcio, ac 
  • ymyrryd rhywiol.

Gall menywod, dynion, plant a phobl ifanc ddioddef o’r uchod, a gallant effeithio ar bawb, ond rydym yn derbyn mai ar fenywod y mae’r effaith gan amlaf.

Rydym am sicrhau bod y bobl sy’n byw, gweithio ac astudio yn, ac yn ymweld â’n rhanbarth, yn cael cyfle i fyw bywydau cadarnhaol, annibynnol heb effaith trais a chamdriniaeth. 

Gweld y ddogfen strategaeth, y cynllun gweithredu ac adroddiadau​ eraill sydd wedi eu cyhoeddi ar wefan Partneriaeth Caerdydd. 
Ymgyrch y Rhuban Gwyn yw’r ymgyrch fyd-eang fwyaf gan ddynion a bechgyn sy’n gweithio i ddod â diwedd i drais yn erbyn menywod a merched, hybu cydraddoldeb rhwng y rhywiau a fersiwn newydd o wrywdod.

Mae Cyngor Caerdydd wedi derbyn statws Dinas Rhuban Gwyn dros y 4 mlynedd diwethaf. Mae cael y dyfarniad yn dangos ein hymrwymiad, fel awdurdod lleol ac fel dinas, i’w gwneud yn glir na fydd camdriniaeth ddomestig a phob ffurf arall ar drais yn erbyn menywod a merched yn cael eu goddef. Mae rhagor o wybodaeth am Ruban Gwyn yn y DU yma: www.whiteribbon.org.uk​​​

Ers derbyn ein statws Dinas Rhuban Gwyn am y tro cyntaf yn 2014, mae’r ymgyrch leol wedi tyfu’n gyson, gyda gweithgareddau’n ennyn cefnogaeth genedlaethol a rhyngwladol. Mae hyn yn cynnwys y gwely blodau y tu allan i Gyngor Caerdydd sy’n arddangos y Rhuban Gwyn ar adegau allweddol o’r flwyddyn.

Un o’n digwyddiadau allweddol yw ‘Cerdded Milltir yn ei Hesgidiau Hi’, digwyddiad blynyddol a drefnir ar y cyd a Chymdeithas Dai Cadwyn a Chyngor Bro Morgannwg hefyd erbyn hyn. Cynhelir Diwrnod y Rhuban Gwyn ar 25 Tachwedd pob blwyddyn, sy’n cyd-daro â ‘Diwrnod Rhyngwladol i Ddileu Trais yn erbyn Menywod a Merched’ y Cenhedloedd Unedig. Rydym yn cynnal nifer o ddigwyddiadau cyhoeddus yr adeg honno pob blwyddyn. Gallwch ddilyn ein gweithgareddau Rhuban Gwyn ar y cyfryngau cymdeithasol drwy ddefnyddio’r hashnod #rhubangwyncaerdyddarfro / #whiteribboncardiffvale

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Chydlynydd Camdriniaeth Ddomestig Caerdydd ar 029 2053 7009


​​​
© 2022 Cyngor Caerdydd