Pan fyddwch chi, neu rywun sy’n agos atoch, yn gofyn am gyngor a chymorth, byddwn wrth law i’ch helpu ac i gynnig gwybodaeth a chyngor ar yr amryw opsiynau sydd ar gael.
Bydd eich cymorth yn dibynnu ar y math o help sydd ei angen arnoch a byddwn yn ystyried:
-
A ydych yn gallu diwallu’r angen hwnnw ar eich pen eich hun;
-
A ydych yn gallu diwallu’r angen gyda gofal a chymorth pobl eraill sy’n barod i helpu;
-
A allwch ddiwallu’r angen gyda chymorth gwasanaethau y gallwch eu defnyddio yn y gymuned.
Gall cymorth lefel gyntaf fod ar ffurf gwybodaeth a chyngor a/neu gymorth gan eich cymuned leol.
Gadael yr ysbyty
I’ch helpu i gael eich hyder a/neu gryfder yn ôl ar ôl arhosiad byr yn yr ysbyty, neu pan fo angen i chi ddechrau bod yn annibynnol am y tro cyntaf, gall yr amryw opsiynau gynnwys:
-
Gwybodaeth a chyngor o ran pa gymorth sydd ar gael yn eich cymuned leol
-
Cymorth i fanteisio ar ofal a chymorth
-
Gofal yn eich cartref
-
Offer a chymhorthion i’ch helpu
-
Addasiadau bach e.e. rheiliau ar y grisiau
Beth os oes angen mwy o gymorth arnaf?
Os yw eich anghenion chi’n fwy, a bod angen mwy o gymorth arnoch, mae’r cymorth hwn yn debygol o gael ei ddarparu gan nifer o bobl neu asiantaethau gwahanol.
Yn yr achos hwn, mae’n debygol y bydd trefniadau ar gyfer eich gofal yn cael eu hysgrifennu mewn cynllun gofal a chymorth. Gelwir hwn yn gynllun gofal a thriniaeth ym maes iechyd meddwl.
Mae’r cynllun gofal yn ddogfen i’ch helpu chi i wybod beth mae pawb yn ei wneud, a phryd maen nhw’n gwneud hynny. Cewch gopi ohono.