Mae’r mwyafrif ohonom eisiau cael rheolaeth dros ein bywydau a byw mor annibynnol â phosibl, ond weithiau mae angen ychydig o gymorth ychwanegol arnom i wneud hyn.
Rydyn ni’n cynnig ac yn trefnu gwasanaethau gofal i oedolion sydd angen cymorth, gofal neu ddiogelwch, gan gynnwys pobl sy’n gadael yr ysbyty a gofalwyr mewn sefyllfaoedd anodd. Gallwn gynnig unrhyw rai o’r canlynol i’ch helpu i fyw yn fwy annibynnol:
- Gwybodaeth a chyngor.
- Gweithgareddau â chymorth mewn canolfannau dydd a lleoliadau cymunedol eraill.
- Cymorth i’ch galluogi i fanteisio ar hyfforddiant neu gyflogaeth.
- Seibiant byr i ofalwyr.
- Addasiadau i’r cartref neu offer arbennig i helpu pobl â salwch neu anabledd gyda’u gweithgareddau bob dydd.
- Offer cyfathrebu i fonitro eich diogelwch a’ch galluogi i alw am help.
- Llety â chymorth neu ofal mewn cartref preswyl neu nyrsio.
- Gofal a chymorth personol yn eich cartref.
Oes gennyf hawl i gael gwasanaethau?
Os ydych yn oedolyn ag anghenion gofal cymdeithasol a all effeithio ar eich iechyd, diogelwch neu annibyniaeth, gallai fod angen cymorth ychwanegol arnoch. Mae gennym ddyletswydd i asesu eich anghenion a sicrhau eu bod yn cael eu diwallu yn y ffordd sydd fwyaf addas i chi.
Gall anghenion godi o:
- Namau neu anableddau corfforol, synhwyraidd neu ddysgu
- Oedran
- Salwch cronig
- Anawsterau iechyd meddwl, gan gynnwys dementia neu broblemau gyda’r cof.
- Dibyniaeth ar alcohol neu gyffuriau.
Byddwn yn ystyried a oes angen gofal a chymorth arnoch i gyflawni canlyniadau personol mewn perthynas â’r canlynol:
- Eich gallu i gynllunio neu reoli eich arferion personol neu ddyddiol
- Eich gallu i gyfathrebu
- Eich amddiffyn rhag camdriniaeth neu esgeulustod
- Eich gallu i gymryd rhan mewn gwaith, addysg, dysgu neu weithgareddau hamdden
- Eich gallu i gynnal perthnasau teuluol neu bersonol pwysig eraill
- Eich gallu i ddatblygu a chynnal perthnasau cymdeithasol ac ymgysylltu â’r gymuned ehangach
- Eich gallu i fodloni eich cyfrifoldebau gofalu am blentyn
Gallech hefyd fod yn gymwys oherwydd amgylchiadau gwahanol, er enghraifft os ydych yn ofalwr di-dâl mewn sefyllfa anodd.
029 2023 4234
Yn anffodus nid yw ein ffurflen ar gael dros dro. Ymddiheuriadau am unrhyw anghyfleustra.