Os oes gennych ddiddordeb mewn dod yn ofalwr hunangyflogedig neu redeg menter gymunedol i gefnogi pobl hŷn ac anabl, mae
Catalyddion Cymunedol yn cynnig cyngor proffesiynol am ddim i'ch helpu i sefydlu eich busnes.
Mathau o ofal a chymorth
Efallai y byddwch yn cynnig help gartref, fel glanhau, coginio, helpu i wisgo a golchi. Neu, gallech gynnig cefnogaeth yn eich cymuned, fel dosbarth ioga cynhwysol, neu sesiynau peintio. Chi biau’r dewis.
Y manteision
- Gweithio i chi'ch hun a dewis eich oriau eich hun,
- gweithio yn eich cymuned leol,
- gosod cyfradd gyflog deg, a
- helpu eraill a rhoi cymorth y gallwch fod yn falch ohono.
Y gefnogaeth fyddwch chi’n ei chael
Gall Catalyddion Cymunedol eich helpu i:
- fod yn hyderus eich bod yn dilyn arferion gorau,
- datblygu eich deunyddiau marchnata,
- dysgu am gyfleoedd ariannu,
- teimlo’n rhan o gymuned,
- cael hyfforddiant sy'n iawn i chi.
Sut i gychwyn arni