Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Amddiffyn oedolion syn agored i niwed

​Mae gennym gyfrifoldeb i warchod pobl sy’n agored i niwed ni waeth beth fo’u hanghenion neu’u sefyllfa. Mae oedolyn sy’n agored i niwed yn berson sy’n 18 neu’n hŷn y mae angen gofal cymunedol arno. Gallai hyn fod o ganlyniad i unrhyw o’r rhesymau canlynol: 

 
  • Anabledd, oedran neu salwch
  • Methu â gofalu amdano ei hun
  • Methu ag amddiffyn ei hun rhag niwed, camdriniaeth neu gamddefnydd. 

Beth i'w wneud os ydych yn poeni am oedolyn

Os ydych chi’n credu eich bod chi neu rywun mewn perygl ar hyn o bryd, mae angen i chi ymateb yn syth - ffoniwch 999 a dweud wrth dderbynnydd yr alwad yr hyn sy’n digwydd.


Os ydych chi’n dioddef o gam-drin neu yr ydych yn credu bod rhywun arall yn dioddef, mae rhaid i chi roi gwybod i rywun. Os nad ydych yn gyfforddus wrth siarad â gwasanaethau cymdeithasol, dywedwch wrth rywun yr ydych yn ymddiried ynddo a gofynnwch iddynt drosglwyddo’r wybodaeth. Gallech siarad â ffrind neu berthynas, meddyg neu nyrs, neu unrhyw un arall sydd mewn awdurdod. 


Os ydych yn dioddef o gam-drin neu os ydych yn meddwl bod rhywun arall yn dioddef, ffoniwch y Tîm Diogelu Oedolion ar


029 2233 0888


Os nad yw yn ystod oriau swyddfa, ffoniwch y swyddog dyletswydd brys ar


029 2078 8570


Neu, gallwch fynd i Action on Elder Abuse Cymru​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newyddos byddai’n well gennych gael cyngor annibynnol.​​

Beth yw camdriniaeth?

Rhywun y dylai person allu ymddiried ynddo, fel perthynas neu ofalwr, sy’n cam-drin fel arfer, a gall y cam-drin amrywio:

 
  • Corfforol – fel slapio neu daro.
  • Seicolegol – fel codi ofn, atal ymwelwyr, bygwth neu anwybyddu’n fwriadol.
  • Ariannol – fel dwyn arian rhywun neu'i wario ar y pethau anghywir, rhoi pwysau ar rywun i newid ei ewyllys neu wario ei arian yn groes i’w ddymuniadau.
  • Rhywiol – fel gorfodi rhywun i gymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol digroeso neu gyffwrdd â rhywun mewn modd amhriodol.
  • Esgeulustod – fel methu â gofalu am rywun yn iawn, methu â rhoi digon o fwyd iddo neu’i roi mewn perygl.

 

 

​​​​​​
​​
© 2022 Cyngor Caerdydd