Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Cynllunio ymlaen llaw

Nid yw byth yn rhy gynnar i gynllunio ar gyfer eich dyfodol, nac unrhyw argyfwng a allai ddigwydd.  Gall cynllunio ymlaen llaw helpu i wneud sefyllfaoedd anodd yn haws i chi a'ch teulu ac mae'n golygu y gallan nhw fod yn ymwybodol o'ch dymuniadau. 

Gallwch wneud cynllun byrdymor mewn argyfwng, ond bydd angen i chi wneud cynlluniau i’r tymor hwy os oes gennych chi neu aelod o'r teulu salwch cynyddol. 


Atwrneiaeth Arhosol 


Gall fod yn anodd meddwl am adeg pan na allwch wneud penderfyniadau mwyach. Os daw'r amser hwnnw, bydd angen rhywun arnoch i wneud y penderfyniadau hynny ar eich rhan.  

Mae Atwrneiaeth Arhosol yn ddogfen gyfreithiol sy'n eich galluogi i roi caniatâd i rywun rydych yn ymddiried ynddo i ysgwyddo'r cyfrifoldeb hwnnw, ac i weithredu ar eich rhan os na allwch wneud hynny mwyach. 

Gallwch chi ffurflen lawlwytho Atwrneiaeth Arhosol ar wefan Llyw’r DU neu lenwi’r ffurflen ar-lein.

Dysgu mwy am Bwerau Atwrneiaeth Arhosol.


Cynlluniau wrth gefn


Mae modd rhoi cynlluniau wrth gefn (a elwir hefyd yn gynllun brys) ar waith os bydd rhywbeth yn digwydd i'ch gofalwr di-dâl. Er enghraifft, salwch sydyn.   

Os ydych chi’n derbyn gofal gan eraill, neu os ydych chi’n ofalwr di-dâl i rywun, gall llunio cynllun wrth gefn eich helpu i feddwl am rai o'r sefyllfaoedd y gallai fod angen i chi gynllunio ar eu cyfer. 

Os ydych chi’n derbyn tâl uniongyrchol gan y Gwasanaethau Oedolion i dalu am gynorthwyydd personol, rhaid bod gennych gynllun wrth gefn ar waith.


Cerdyn argyfwng i ofalwyr


Mae Gofalwyr Cymru yn darparu cardiau brys a ffobiau agor ar gyfer gofalwyr di-dâl yng Nghaerdydd.  Os ydych chi’n ofalwr di-dâl ac yn ymwneud â damwain neu argyfwng, bydd y cerdyn yn rhoi gwybod i weithwyr brys bod rhywun yn dibynnu arnoch i ofalu amdanynt. 






​​

© 2022 Cyngor Caerdydd