Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Oes angen caniatâd cynllunio arna i

​​​Bydd angen caniatâd cynllunio arnoch os ydych am addasu adeilad, darn o dir neu adeiledd parhaol (fel wal) a bod angen i chi wneud gwaith adeiladu i gyflawni hyn. Bydd angen caniatâd cynllunio arnoch hefyd os bydd y gwaith yn newid y ffodd y caiff yr adeilad neu’r tir ei ddefnyddio.

 

Gwneud cais am ganiatâd cynllunio

 

Fel arfer, bydd angen caniatâd cynllunio arnoch i:​ 

  • godi adeilad newydd
  • estyn neu addasu adeilad
  • gwneud newidiadau i’r ffordd y caiff adeilad ei ddefnyddio, er enghraifft troi tŷ’n fflatiau neu droi adeilad diwydiannol yn gartref
  • cyflawni gwaith peirianneg neu waith arall, fel carthffosiaeth
  • dymchwel adeilad neu adeiledd
  • cyflawni gwaith ar adeilad rhestredig
  • cyflawni gwaith mewn ardal gadwraeth
  • cyflawni gwaith ar goed a ddiogelir neu goed mewn ardal gadwraeth
  • codi adeiladau amaethyddol newydd.

 

Mae Gwefan Cais Cynllunio Cymru​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd. yn cynnwya mwy o wybodaeth i'ch helpu i ddod o hyd i ba fath o ganiatâd cynllunio sydd ei angen arnoch, gan gynnwys:

  • Ceisiadau electronig ar gyfer caniatâd cynllunio 
  • dysgu am y system gynllunio 
  • gwybodaeth am ddatblygiad 
  • apelio yn erbyn penderfyniad cynllunio 
  • ymchwilio i’r polisi llywodraeth diweddaraf 
  • darllen a lawrlwytho’r canllaw cymorth 
  • ffurflenni a dogfennau eraill

Datblygiadau a ganiateir lle nad oes angen caniatâd cynllunio arnoch 

Mae rhai mân welliannau, addasiadau ac estyniadau y gallwch eu gwneud i’ch tŷ nad oes angen caniatâd cynllunio arnoch i’w cwblhau. Gall y rhain gynnwys mathau penodol o bortsh, heuldai gwydr o faint penodol a rhai addasiadau mewnol.

 

‘Datblygiadau a ganiateir’ yw’r enw ar y rhain. Gallwch gael rhagor o gyngor ar ddatblygiadau a ganiateir drwy lawrlwytho llyfryn gwybodaeth o wefan Lywodraeth C​​​​ymru​​​​​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd neu o’r Ceisiadau Cynllunio Cymru​​​​​​​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd cenedlaethol.

 

Ffyrdd eraill o gadarnhau a oes angen caniatâd cynllunio arnoch 

Os ydych dal yn ansicr a oes angen caniatâd cynllunio arnoch, gallwch: 

 

Os oes angen cyngor arnoch, gweler ymholiadau cyn ymgeisio.

​​
© 2022 Cyngor Caerdydd