Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Beth yw cost a hyd y broses?

Ffioedd Ceisiadau Cynllunio

 

Mae cost gwneud cais am ganiatâd cynllunio yn dibynnu ar ba fath o waith rydych am ei wneud.

 

Lawrlwythwch y Raddfa Ffioedd (240kb PDF)​​​​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd
Lawrlwythwch y Raddfa Ffioedd ar gyfer Hysbysebion​ (206kb PDF)​​​​​​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd​​​

 

Mae rhai mathau o geisiadau cynllunio, fel ychwanegu neu wella mynediad i bobl anabl mewn cartrefi ac adeiladau cyhoeddus, am ddim.


 

Gallwch Apelio yn erbyn penderfyniad cynllunio am ddim

 

Sut i dalu

 

Os ydych yn cyflwyno’ch cais cynllunio drwy’r post bydd angen i chi anfon un copi o’ch ffurflen gais ynghyd ag un copi o’ch dogfennau ategol a’ch taliad yn llawn. Rhaid i bob ffi drwy’r post fod ar ffurf siec sy’n daladwy i Gyngor Caerdydd. 

 

Rheoli Datblygiadau
Ystafell 201
Neuadd y Sir
Glanfa'r Iwerydd
Caerdydd
CF10 4UW

 

Os gwnewch gais ar-lein drwy’r Porth Cynllunio gallwch dalu’ch ffi naill ai’n electronig drwy gerdyn debyd neu drwy anfon siec i Neuadd y Sir. Ceir manylion ar wefan y Porth Cynllunio.

 

Pa mor hir fydd y broses?

 

Penderfyniadau ar gynllunio:  Mae’r amser y bydd yn ei gymryd i wneud penderfyniad yn dibynnu ar fath y caniatâd cynllunio rydych wedi gwneud cais ar ei gyfer.

 

Fel arfer, byddwn yn penderfynu ar geisiadau o fewn 8 wythnos, ond mae dyddiad targed o 16 wythnos ar gyfer ceisiadau sy’n destun Asesiad o Effaith Amgylcheddol.

 

Mae penderfyniad cynllunio fel arfer yn ddilys am bum mlynedd, oni bai bod cyfyngiad amser penodol ar eich caniatâd cynllunio. Mae gennych bum mlynedd o’r dyddiad y caiff y caniatâd ei ddyfarnu i ddechrau ar y gwaith. Os nad ydych wedi dechrau ar waith o fewn pum mlynedd, gallai fod angen i chi wneud cais arall neu gais i ymestyn y caniatâd cyn iddo ddod i ben. Os oes angen i chi wneud hyn, efallai y bydd angen i chi ddefnyddio ffurflen gais Dileu neu Amrywio amod. Cysylltwch â ni i gael rhagor o gyngor.

 

Apeliadau:  Os yw’ch cais am ganiatâd cynllunio’n cael ei wrthod dylech geisio trafod cynllun wedi’i ddiwygio yn hytrach na chyflwyno apêl.  Darllenwch fwy am apelio yn erbyn penderfyniad cynllunio.

 

Mae gwefan y Porth Cynllunio wedi cwblhau tabl amseroedd cyfartalog​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd ar ba mor hir mae mathau gwahanol o apeliadau’n para. Mae hyn fel arfer tua 15 i 30 wythnos.

 

Gwrthwynebu cais cynllunio

 

Amseroedd cyffredinol yw’r rhain. Penderfynir ar bob cam o’r broses gynllunio'n unigol, fesul achos, a gallai llawer o ffactorau gwahanol newid yr amser y mae’n ei gymryd i ddod i benderfyniad penodol.  I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â ni:

 

Rheoli Datblygu
Cynllunio Strategol, Priffyrdd a Thraffig a Thrafnidiaeth
Ystafell 201
Neuadd y Sir
Glanfa'r Iwerydd
Caerdydd
CF10 4UW

 

029 2233 0800 

Cysylltu â ni

 

​​​​​​​
© 2022 Cyngor Caerdydd