Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Penderfyniadau a cheisiadau diweddar

​​​​Ceir copïau o geisiadau a phenderfyniadau diweddar yn y Gofrestr Cynllunio,Mae hyn yn cynnwys yr enwau a'r cyfeiriadau fel y rhoddwyd y rheiny ar y ffurflenni cais.

Gallwch weld a chwilio cofrestrau rhestrau wythnosol​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd.

Mae rhai ceisiadau'n cael eu hysbysebu yn y Western Mail ac ar hysbysiadau safle.

 
O ran ceisiadau nas ymdriniwyd â hwy dan y pwerau dirprwyedig, bydd y Pwyllgor Cynllunio yn trafod y cais.

 
 
Nid yw pob cais yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio. Mae’r Pwyllgor wedi rhoi y pŵer i Swyddogion o’r Cyngor i benderfynu ar rai mathau o geisiadau ar ei ran.

Caiff unrhyw berson fynychu cyfarfodydd y Pwyllgor Cynllunio wrth i geisiadau gael eu hystyried.

Gellir cyflwyno sylwadau i unrhyw Gynghorydd siarad ar eich rhan yn y Pwyllgor, ond argymhellir eich bod yn cysylltu ag un o’ch Cynghorwyr lleol yn gyntaf. Gall llefarydd cynrychioliadol annerch y Pwyllgor am hyd at dair munud os cyflwynir deiseb sydd wedi’i llofnodi gan 50 neu fwy o bobl sydd ar y gofrestr etholiadol ac y gallai cyfran sylweddol ohonynt gael eu heffeithio’n rhesymol gan fater y ddeiseb honno. Mae’n rhaid i’r llefarydd fod wedi llofnodi’r ddeiseb hefyd. Mae gan bob ymgeisydd yr hawl i ymateb wedi hynny.

Byddwch cystal a nodi, os ydych chi’n dymuno siarad, dylai’r deisebau ddod i law o leiaf 7 diwrnod clir cyn dyddiad cyfarfod y Pwyllgor (e.e. os yw’r cyfarfod ar ddydd Mercher, yna rhaid iddo ddod i law erbyn 5.00pm ar y dydd Mawrth blaenorol 8 diwrnod ymlaen llaw).

O bryd i’w gilydd caiff y ceisiadau eu hystyried gan y Pwyllgor cyn diwedd y cyfnod o 21 diwrnod ar gyfer sylwadau’r cyhoedd, felly os ydych chi’n ystyried cyflwyno deiseb, cysylltwch a’r person a enwir ar waelod y llythyr ar unwaith i ofyn am ddyddiad y Pwyllgor.

Os oes arnoch angen rhagor a fanylion am y gweithdrefnau hyn, neu os oes arnoch angen cymorth gyda unrhyw broblemau eraill, cysylltwch a’r person a enwir ar waelod y llythyr.
 

Cyfarfodydd y Pwyllgor Cynllunio wedi eu Darlledu Ar Lein

Byddwn yn ffilmio Cyfarfodydd y Pwyllgor Cynllunio er mwyn i bobl eu gwylio’n fyw neu’n hwyrach ar wefan y Cyngor. Byddwn yn ffilmio’r holl gyfarfod oni bai am drafodaethau am eitemau cyfrinachol neu rai wedi eu heithrio. Bydd y fideo ar y wefan am chwe mis.


Byddwn yn cadw copi hefyd, yn unol ô pholisi cadw data’r Cyngor. Os ydych yn cyflwyno rhywbeth mewn cyfarfod, bydd hynny’n arwydd eich bod yn caniatáu’r ffilmio. Wrth fynd i mewn i’r Siambr, rydych hefyd yn caniatáu’r ffilmio a chaniatáu defnyddio’r lluniau neu sain ar gyfer d eu darlledu ar y we neu ar gyfer hyfforddiant.


Os nad ydych am i ni dynnu eich llun, dylech aros yn oriel y cyhoedd.


​​​​
​​​​​
​​​​​​​​​​​ ​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​
© 2022 Cyngor Caerdydd