Mae Gorchmynion Cadw Coed (GCC) yn berthnasol i goed a choetiroedd penodol yng Nghaerdydd er mwyn helpu i’w diogelu.
Mae’n anghyfreithlon torri, tocio, dinistrio neu ddifrodi unrhyw waith os oes GCC mewn grym. Er mwyn gwneud gwaith rhaid i chi gwblhau
ffurflen gais i wneud gwaith ar goed sydd dan orchymyn cadwcoed.Dolen allanol yn agor mewn ffenest newydd Gallwch wneud cais am ddim.
Cwblhewch y ffurflen a’i dychwelyd i amddiffyncoed@caerdydd.gov.uk.
Gallwch ddychwelyd y ffurflen drwy’r post neu mewn person i:
Development Management
Neuadd y sir,
Caerdydd,
CF10 4UW.
Mae Llywodraeth Cymru wedi llunio dogfen sy’n cynnig cyngor ar
Orchmynion Cadw CoedDolen yn agor mewn ffenestr newydd.
Os yw’r goeden neu goetir rydych eisiau gwneud gwaith arno mewn Ardal Gadwraeth bydd angen i chi lenwi
ffurflen gais i wneud gwaith ar goed sydd dan orchymyn cadwcoedDolen allanol yn agor mewn ffenest newydd.
Gwybodaeth a chyngor