Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Treth ystafell wely

​Os ydych yn byw mewn tŷ Cyngor neu Gymdeithas Tai, a bod gennych un neu fwy o ystafelloedd gwely 'sbâr', gallai'ch Budd-dal Tai fod wedi'i leihau - cyfeirir at hyn fel y ‘dreth ystafell wely’ yn aml. Disgwylir i blant rannu ystafell wely.

A yw’r 'dreth ystafell wely’ yn berthnasol i bawb?


Ni fydd hyn yn effeithio arnoch os: 

  • ydych chi a eich partner o oedran credyd p​ensiwn,
  • rydych chi'n byw mewn rhai mathau o lety dros dro
  • bod gennych denantiaeth perchenogaeth a rennir 

Sut wyddwn i os yw fy nghartref yn rhy fawr?


Rydych yn cael un ystafell wely am bob:

  • Cwpl sy'n oedolion
  • Unrhyw oedolyn arall (16 oed neu'n hŷn)
  • Unrhyw ddau blentyn o'r un rhyw dan 16 oed
  • Dau blentyn dan 10 oed p’un a ydynt yn fechgyn neu’n ferched
  • Unrhyw blentyn arall
  • Gofalwr nad yw fel arfer yn byw gyda chi ond sy’n rhoi gofal dros nos i aelod o’ch cartref.​


Nid yw plant sydd fel arfer yn byw yn rhywle arall yn cyfrif.

 

Gallwch ddefnyddio’r cyfrifiannell ystafell wely i gael syniad o sut y gallai hyn effeithio arnoch. 

Faint o'm budd-dal gaiff ei dorri?


Os oes gennych un ystafell wely ‘sbâr’, bydd eich budd-dal tai yn cael ei leihau o leiaf 14%.

Os oes gennych ddwy neu fwy ystafell sbâr bydd eich Budd-dal tai yn cael ei leihau o leiaf 25%.



Mae rhai o'm hystafelloedd gwely yn rhy fach i'w defnyddio fel ystafell wely.


Pan wnaethoch symud i'ch cartref, roedd hynny ar sail cytuno bod nifer penodol o ystafelloedd gwely yno.


Os ydych o'r farn fod hynny'n anghywir, a bod gan eich cartref lai o ystafelloedd gwely, dylech siarad â'ch landlord. 


Dan amgylchiadau eithriadol iawn, gallai'ch landlord ystyried ailddosbarthu'ch tŷ fel eiddo llai.   Os gwnaiff hyn, a'i fod yn lleihau'ch rhent, caiff eich cais ei ystyried eto, a gwneir penderfyniad ar ba un a ddylid diwygio'ch budd-dal.


Os ydych yn denant y Cyngor, cysylltwch â ni. Os ydych yn denant Cymdeithas Tai, siaradwch â’ch landlord. 

Eithriadau


Plant Anabl


Os oes gennych blentyn anabl na all rannu ystafell wely, gallem ganiatáu ystafell wely ychwanegol i chi wrth gyfrifo eich Budd-dal Tai.


Mae angen i chi roi gwybodaeth i ni am anableddau'r plentyn a pham na all rannu ystafell wely.  Rhaid i’ch plentyn gael naill ai cyfradd ganolog neu gyfradd uwch elfen gofal y Lwfans Byw i'r Anabl. Ffurflen Gais (209kb PDF)​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd

Oedolion Anabl Na Allant Rannu Ystafell Wely


Os yw un oedolyn o gwpl yn methu â rhannu ystafell wely oherwydd ei anableddau, o 1 Ebrill 2017 gallwn o bosibl ganiatáu ystafell wely ychwanegol wrth gyfrifo’ch Budd-Dal Tai.

Mae angen i chi roi gwybod i ni am anableddau’r oedolyn a pham na all rannu ystafell wely. Rhaid i’r oedolion fod yn cael:

  • Elfen Ofal Ganolig neu Uwch y Lwfans Byw I'r Anabl
  • Lwfans Gweini – Cyfradd Uwch
  • Elfen Byw Dyddiol Taliadau Annibyniaeth Bersonol
  • Taliadau Annibyniaeth y Lluoedd Arfog

Lawrlwythwch y ffurflen gais Oedolion sy'n methu rhannu ystafell wely (21kb PDF)​​​​​​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd​​

 

Gofalwr maeth


Os ydych yn ofalwr maeth cymeradwy a effeithir arnoch gan y cyfyngiadau maint, cewch un ystafell wely ychwanegol pan gaiff eich Budd-dal Tai ei gyfrifo.   Bydd hyn hefyd yn berthnasol rhwng lleoliadau ar yr amod eich bod wedi maethu plentyn, neu wedi dod yn ofalwr maeth cymeradwy, yn ystod y 12 mis diwethaf. Ffurflen Gais (230kb PDF)​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd


Mab neu ferch sy’n oedolyn yn y lluoedd arfog


Os oes gennych blentyn sy'n oedolyn sydd fel arfer yn byw gyda chi, ond sydd i ffwrdd â'r fyddin a hyn o bryd, caniateir ystafell wely ychwanegol i chi dros y cyfnod hwnnw.   Bydd hyn hefyd yn berthnasol i lysblentyn.

Rhaid ei fod wedi byw gyda chi fel oedolyn yn flaenorol, ac yn bwriadu dychwelyd i fyw yn eich cartref. 

Cysylltwch â ni os ydych o'r farn bod hyn yn berthnasol i chi.

Beth allaf ei wneud nawr?


Os ydych chi’n poeni am dalu eich rhent dylech ofyn am gyngor nawr.  Os nad ydych yn talu eich rhent gallech golli'ch cartref. 

 

Os ydych chi’n un o denantiaid y Cyngor ffoniwch 029 2053 7111. Os ydych chi’n denant gyda Chymdeithas Tai ffoniwch eich landlord ar un o’r rhifau ffôn isod.

 

Manylion Cyswllt Cymdeithasau Tai

Cymdeithas Tai Wales and West

0800 052 2526

Cymdeithas Tai Unedig Cymru

0800 294 0195

Cymdeithas Tai Cadwyn     

029 2049 8898

Cymdeithas Tai Linc - Cymru

0800 072 966

Cymdeithas Tai Taf

029 2025 9157 

Cymdeithas Tai Hafod

029 2067 5800

Cymdeithas Tai Cymunedol Caerdydd

029 2046 8493

Cymdeithas Tai Newydd

0303 040 1998

Cymorth ychwanegol i symud tŷ


Os ydych yn denant cyngor neu Gymdeithas Tai a’ch bod am symud i eiddo llai, mae help ychwanegol ar gael i chi.


Rhestr Aros â Blaenoriaeth i Symud i Eiddo Llai


Os ydych am symud i eiddo llai, gallwch wneud cais i ymuno â'r rhestr hon.


Byddwn yn gwneud 2 gynnig rhesymol o lety i chi. Os byddwch yn gwrthod y ddau, cewch eich dileu o’r rhestr ac ni fyddwch yn derbyn unrhyw gynigion pellach.

I gael gwybodaeth am y rhestr, cysylltwch â ni. Gall tenantiaid Cymdeithasau Tai gysylltu â'u landlord hefyd.


Cyfnewid eich tŷ â thenant arall

​ Gallwch gyfnewid tŷ ag un o denantiaid eraill y Cyngor neu'r Gymdeithas Tai.

Gallwch ddod o hyd i denantiaid sydd am gyfnewid tai yn homeswapper.co.uk

Help gyda’r diffyg


Os na allwch fforddio talu’r diffyg yn eich rhent ar eich pen eich hun, gallech o bosibl dderbyn Taliadau Tai Dewisol. Gall y taliadau hyn helpu gyda’r gostyngiad yn eich Budd-dal Tai wrth i chi aros i symud cartref.


I fod yn gymwys ar gyfer y taliadau hyn:

  • Mae'n rhaid i chi fod ar y Rhestr Aros â Blaenoriaeth i Symud i Eiddo Llai,
  • Mae’n rhaid i chi fod wedi dewis o leiaf un ardal yng Nghaerdydd lle mae llawer o eiddo addas ar gael,
  • Mae’n rhaid i chi fod wedi’ch cofrestru ar Homeswapper gyda chyfrif byw.


 Cartrefi ag addasiadau i bobl anabl


Os oes gan eich tŷ addasiadau i helpu ag anabledd, byddwn yn gweithio gyda Tai Hygyrch Caerdydd i:

  • Helpu chi i ddod o hyd i eiddo ag addasiadau neu eiddo lle nad oes angen addasiadau yno mwyach,
  • Rhoi addasiadau newydd i chi mewn tŷ newydd llai o faint.

 

Help gyda chostau symud


Os ydych yn un o denantiaid y Cyngor neu Gymdeithas Tai a bod y rheolau cyfyngu maint yn effeithio arnoch, efallai bod gennych hawl i £250 o'r gronfa Taliadau Tai Dewisol i helpu â'ch costau symud.   Telir yr arian hwn gan yr adran Budd-dal Tai i'ch cyfrif banc.


I gael y cymorth hwn rhaid eich bod yn symud i dŷ Cyngor neu Gymdeithas Tai newydd sy'n llai na'ch cartref cyfredol.   Nid oes rhaid i'r tŷ newydd fod yng Nghaerdydd.


Gallwch wneud cais am y cymorth hwn pan fyddwch yn llofnodi eich tenantiaeth newydd. 

Help gyda rhoi trefn ar eich cartref newydd


Os ydych yn un o denantiaid y Cyngor a bod y rheolau cyfyngu maint yn effeithio arnoch, gallech hefyd hawlio Taliad Amharu Diwygio Lles.   Taliad o £250 yw hwn i helpu â’r gost o roi trefn ar eich cartref newydd.   Fe'i telir gan Uned Gosod Tai Cymdeithasol y Cyngor i'ch cyfrif banc.


Gallwch wneud cais am y cymorth hwn pan fyddwch yn llofnodi eich tenantiaeth newydd.


Mae rhai Cymdeithasau Tai yn cynnig help hefyd.   Dylai tenantiaid Cymdeithasau Tai gysylltu â'u landlord am ragor o wybodaeth. 

Help os ydych am rentu'n breifat


Os ydych yn cael Budd-dal Tai, a'ch bod am symud i dŷ rhent preifat, gallech gael help gyda bond neu rent ymlaen llaw.   I gael help, rhaid eich bod:

  • wedi'ch effeithio gan Ddiwygio Lles neu fod gennych reswm da dros fod angen symud tŷ,
  • wedi dod o hyd i dŷ newydd yng Nghaerdydd ac yn barod symud i mewn iddo,
  • yn gallu fforddio’r rhent yn eich cartref newydd.
     

I gael rhagor o wybodaeth am y cynllun hwn gallwch fynd i'r Ganolfan Opsiynau Tai yn Hansen Street (oddi ar Tresillian Terrace), Caerdydd, CF10 5WD neu ffoniwch 029 2057 0750. 

Ble allaf gael rhagor o wybodaeth am symud tŷ?


Nod gwefan Tai Caerdydd yw helpu pobl sy'n chwilio am dŷ drwy roi gwybodaeth am lety rhent a llety fforddiadwy.   Gall landlordiaid hefyd hysbysebu eu heiddo a chael gwybodaeth am safonau llety gofynnol, opsiynau achredu a materion eraill.


Gallwch fynd i’r wefan yn www.cardiffhousing.co.uk  

​​​​​​
© 2022 Cyngor Caerdydd