Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Credyd Cynhwysol

​​​​Taliad unigol misol ar gyfer pobl o oedran gwaith, boed yn gweithio neu allan o waith, a weinyddir gan yr Adran Gwaith a Phensiynau yw Credyd Cynhwysol. Yng Nghaerdydd, o fis Chwefror mae'n cyfuno rhai o’r budd-daliadau a’r credydau treth canlynol, am y rhan fwy o bobl oedran gwaith sy orfod gwneud hawl newydd:

  • ​Budd-dal tai
  • Lwfans ceisio gwaith yn seiliedig ar incwm
  • Lwfans cyflogaeth a chymorth yn seiliedig ar incwm
  • Credydau treth plant
  • Cymhorthdal incwm
  • Credydau treth gwaith

Na fydd Credyd Cynhwysol yn disodli Budd-dal Plant. 

Os mae un o rain yn berthnasol na fyddwch yn gallu gwneud cais am Gredyd Cynhwysol

  • ​Rydych chi a’ch partner yn oedran Pensiwn y Wladwriaeth​
  • Rydych yn aros mewn lloches, hostel neu rhai o dai â chymorth neu dai dros dro

Pryd bydd credyd cynhwysol yn effeithio arnoch chi?


Mae Credyd Cynhwysol yn cael ei gyflwyno’n raddol, yn dechrau gyda rhai sydd angen gwneud cais newydd, ond yn y pen draw bydd yn rhaid i bawb sy’n hawlio budd-daliadau a chredydau threth a restrir uchod hawlio Credyd Cynhwysol.

Os ydych eisoes yn hawlio un neu fwy o’r budd-daliadau hynny, ni fydd effaith arnoch nes y bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn cysylltu â chi. Fodd bynnag, os ydych yn eu hawlio a bod eich partner yn symud i mewn gyda chi a'i fod/bod yn hawlio Credyd Cynhwysol, bydd yn rhaid i chi hawlio Credyd Cynhwysol ynghyd.

Sut i hawlio Credyd Cynhwysol


Ble i fynd i gael help?


Os nad oes cyfrifiadur neu fynediad i’r we gyda chi, gallwch fynegi cyfrifiadur yn y Ganolfan Byd Gwaith lleol, neu eich hyb lleol.

Gallwch hefyd cysylltu â Llinell gymorth Credyd Cynhwysol a mwy o wybodaeth a chymorth ar:

Ffon : 0800 328 5644
Llinell Gymraeg: 0800 328 1744
Ffôn testun: 0800 328 1344

Os ydych yn cael Credyd Cynhwysol yn barod, ond dal yn cael trafferth yn talu eich rhent, all fod chi yn gallu hawlio Taliadau Tai Dewisol

I gael cyngor ynglŷn â mynd dol i’r gwaith, neu fynd ar-lein, ewch i'r Gwasanaeth i Mewn i Waith​.
​​​
© 2022 Cyngor Caerdydd