Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Sut i apelio yn erbyn penderfyniad

​Os ydych yn anghytuno â phenderfyniad ar Fudd-dal Tai, gallwch:

 

  • ofyn am ragor o wybodaeth am y penderfyniad
  • apelio yn erbyn y penderfyniad

 

Mae rheolau gwahanol o ran penderfyniadau ar Fudd-dal Tai a Gostyngiadau’r Dreth Gyngor. Os ydych yn apelio yn erbyn y ddau benderfyniad, gweler y canlynol hefyd sut i apelio yn erbyn penderfyniad ar Ostyngiad y Dreth Gyngor.

 

 

Gofyn am ragor o wybodaeth am y penderfyniad

 

Pan wnawn benderfyniad ar eich Budd-dal Tai, byddwn yn anfon llythyr atoch. Os ydych am gael rhagor o wybodaeth ynghylch y penderfyniad, dylech ofyn am ddatganiad rhesymau. Os gofynnwch am hyn o fewn mis i’r penderfyniad cewch amser ychwanegol os penderfynwch apelio yn erbyn y penderfyniad.

 

 

Os ydych yn anghytuno â phenderfyniad

 

Os ydych yn anghytuno â’r penderfyniad gallwch apelio i’r Adran Budd-daliadau yn y lle cyntaf neu gallwch apelio’n uniongyrchol i Dribiwnlys annibynnol.

 

 

Dylech apelio o fewn mis i’r penderfyniad. Os ydych yn cyflwyno apêl yn hwyr, bydd angen i chi ofyn am estyniad amser ac egluro pam fod eich apêl yn hwyr.  Mae terfyn amser eithaf o 13 mis ar apeliadau.

Pwy all apelio?

Gall y bobl ganlynol apelio:

 

 

  • yr hawliwr,

  • penodai swyddogol sy’n gweithredu ar ran yr hawliwr,

  • y landlord (os yw’r apêl yn ymwneud â thalu Budd-dal Tai yn uniongyrchol neu adennill gordaliad budd-dal).

 

Sut i apelio

 

Os ydych yn anghytuno â phenderfyniad bydd angen i chi apelio’n ysgrifenedig drwy:

 

 

Gallwch alw heibio yn un o’n Hybiau am gymorth gyda’r apêl.

Pan gawn fanylion eich apêl byddwn yn ailystyried y penderfyniad ac yn rhoi’r holl wybodaeth i chi. Byddwn yn newid y penderfyniad os oedd yn anghywir ac yn ysgrifennu atoch i’ch hysbysu o ganlyniad eich apêl.

 

Apelio i Dribiwnlys Annibynnol

 

Os byddwch yn dal yn anfodlon ar y penderfyniad, gallwch apelio i Dribiwnlys Annibynnol.  Rhaid i chi gyflwyno apêl ysgrifenedig.   Ni allwch apelio i Dribiwnlys dros y ffôn neu drwy e-bost. 

 

Mae tribiwnlysoedd gwahanol yn gwrando ar apeliadau Budd-dal Tai ac apeliadau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor. Os byddwch yn apelio yn erbyn y ddau benderfyniad, bydd dau wrandawiad yn cael eu cynnal ar wahân. 

 

 

Apelio yn erbyn penderfyniad ar Fudd-dal Tai

Os ydych chi am apelio i’r Gwasanaeth Tribiwnlys, rhaid i chi anfon eich apêl i’r adran Budd-daliadau. Rhaid i’ch apêl:

 

 

  • fod yn ysgrifenedig ac wedi ei lofnodi – ni dderbynnir galwadau ffôn na negeseuon e-bost,

  • egluro pa benderfyniad rydych chi am apelio yn ei erbyn,

  • nodi pam eich bod yn anghytuno.  

 

Rhaid i ni gael eich llythyr apelio o fewn mis i’r dyddiad a ddangosir ar lythyr y penderfyniad y gwnaethom ei anfon atoch.

Os gwnewch apêl yn hwyr, bydd angen i chi ofyn am estyniad amser ac esbonio pam fod eich apêl yn hwyr. Mae terfyn amser eithaf o 13 mis ar apeliadau. 

 

Gwybodaeth am y Gwasanaeth Tribiwnlys

​​
© 2022 Cyngor Caerdydd