Mae Atafaelu Enillion yn Uniongyrchol (AEU) yn ffordd y gall cynghorau adennill dyledion gan unigolyn. I drefnu AEU, bydd y cyngor yn gofyn i gyflogwr wneud didyniadau o gyflog cyflogai. Yna caiff y swm hwn ei dalu i’r cyngor i leihau neu glirio dyled yr unigolion.
Mae
Canllawiau Cyflogwyr i Atafaelu Enillion yn Uniongyrchol (145kb PDF)Dolen yn agor mewn ffenestr newydd yn cynnig cyngor ar beth sydd angen i gyflogwr ei wneud os caiff ei ofyn i gyflawni AEU.
Mae’n esbonio:
- Sut i roi trefniant Atafaelu Enillion yn Uniongyrchol ar waith.
- Sut i gyfrifo faint i’w ddidynnu o enillion y cyflogai.
- Sut a phryd i dalu’r arian a ddidynnwyd i’r Cyngor.
- Cyfrifoldebau’r cyflogwr dan y gyfraith.
Rhaid cwblhau
amserlen taliadau a’i hanfon i’r Cyngor i nodi faint o arian a ddidynnwyd o gyflog y cyflogai. Dylech atodi’r amserlen wedi’i llenwi i unrhyw daliadau siec neu ei hanfon ar wahân pan fyddwch yn gwneud taliadau drwy BACS.
Ceir esboniad o’r weithdrefn lawn yn y
canllaw i gyflogwyr (145kb PDF)Dolen yn agor mewn ffenestr newydd.
Nod y canllaw yw helpu cyflogwyr i ddeall y prif bwyntiau ynghylch Atafaelu Enillion Uniongyrchol, ond nodwch nad datganiad llawn o'r gyfraith ydyw.
Dysgwch fwy am
ddeddfwriaeth AEU i gyflogwyr.
Os ydych yn gyflogwr a bod gennych unrhyw gwestiynau ar ôl darllen y canllaw, cysylltwch â ni neu ffoniwch ni ar 029 2053 7500
Cysylltu â ni