Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Gwneud cwyn

​​​​​​​​​Gallwch gyflwyno cwyn os ydych yn anhapus â safon y gwasanaeth yr ydych wedi'i derbyn gan y Cyngor, neu os ydych yn anhapus â rhywbeth y mae'r Cyngor neu aelod o staff wedi'i wneud neu wedi methu â'i wneud.

Disgwyliwn i gwsmeriaid gyflwyno eu cwyn o fewn 6 mis (o dan y Polisi Corfforaethol) neu 12 mis (o dan y Polisi Gwasanaethau Cymdeithasol) i ddod yn ymwybodol o'r broblem.  

Ni fyddwn yn ymchwilio i gwynion a dderbynnir y tu allan i'r amserlen hon, oni bai bod amgylchiadau eithriadol. 

Ydych chi wedi dweud wrthym am y mater?

Os nad ydych wedi dweud wrthym am y mater eto, rhowch gyfle i ni unioni pethau.  

Peidiwch â defnyddio'r ffurflen gwyno os ydych:  


​Gwneud cwyn​ 

Cwyno


​Gallwch hefyd:  


Lawrlwythwch ffurflen gwyno (262kb PDF) neu gallwch gasglu un mewn Hyb. Ar ôl i chi gwblhau'r ffurflen, anfonwch hi at: ​

Cwynion a Chanmoliaeth 
Neuadd y Sir
Glanfa'r Iwerydd
Caerdydd 
CF10 4UW​

Beth fydd yn digwydd nesaf

Byddwn yn anfon eich cwyn at yr adran/adrannau perthnasol am ymateb. Byddant yn:​

  • cydnabod eich cwyn o fewn 5 diwrnod gwaith o'r dyddiad y daw i law,
  • ceisio datrys eich cwyn o fewn 20 diwrnod gwaith, a
  • rhoi gwybod i chi o fewn yr 20 diwrnod gwaith os ydynt yn credu y gallai gymryd mwy o amser i ymchwilio i'ch cwyn.

Byddant yn dweud wrthych pa mor hir y maent yn disgwyl iddo ei gymryd a byddant yn rhoi diweddariadau rheolaidd.

Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth yn ein Polisi Cwynion (475kb PDF)





© 2022 Cyngor Caerdydd