Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Perfformiad

​​​​​​Rydym am i Gyngor Caerdydd fod yn gyngor rhagorol. I’n helpu i gyflawni hyn rydyn ni’n cyson fonitro pa mor dda rydyn ni’n wneud.

Mae ein Cynllun Corfforaethol​​​​ yn nodi’r hyn rydyn ni am ei gyflawni a sut y byddwn yn gwneud hynny.  Mae’n amlinellu ein blaenoriaethau a’n hamcanion llesiant, ac mae casgliad o fesurau a thargedau i’w monitro’n flynyddol yn sail iddynt. 

Amcanion strategol a fydd yn sicrhau bod y Cyngor yn cyfrannu at gyflawni’r nodau lles yw’r amcanion llesiant. Maen nhw wedi eu creu i sicrhau y cyfrennir cymaint â phosibl i’r Nodau Llesiant ac maen nhw’n orfodol dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. 

Mae hyn yn ein helpu i ddathlu ein llwyddiannau ac i ffocysu ar y meysydd lle mae angen i ni wella. 

Rydym yn cyhoeddi adroddiadau perfformiad ddwywaith y flwyddyn dros y flwyddyn ariannol i rannu'r wybodaeth hon, sy'n cael eu hadolygu gan y Pwyllgor Craffu Adolygu Polisi a Pherfformiad a’r Cabinet. Rydym hefyd yn cyhoeddi Adroddiad Lles  yn flynyddol sy’n asesu ein perfformiad yn erbyn yr hyn y dywedasom y byddem yn ei wneud yn y Cynllun Corfforaethol. 

Cyhoeddir yr Adroddiad Perfformiad Canol Blwyddyn a'r Adroddiad Lles Blynyddol ar Modern.Gov​ fel rhan o bapurau'r Cabinet a'r Cyngor. 


© 2022 Cyngor Caerdydd