Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Am yr Arglwydd Faer

​​​​​​Yr Arglwydd Faer, Dinesydd Cyntaf Caerdydd, yw'r prif lysgennad yn nigwyddiadau Dinesig y ddinas. Yr Arglwydd Faer presennol yw Cynghorydd Bablin Molik​ a'r dirprwy Arglwydd Faer yw Cynghorydd Jane Henshaw.Mae'r Arglwydd Faer yn sicrhau traddodiad a pharhad, sy'n llesol i'r ddinas yn fasnachol a chymdeithasol. Roedd sawl Arglwydd Faer yn flaenllaw yn yr ymgyrch i roi statws prifddinas i Gaerdydd yn 1955.  Mae pob Arglwydd Faer yn wleidyddol niwtral yn ystod eu blwyddyn yn y swydd, ac yn cadeirio cyfarfodydd y cyngor.  Dyletswyddau seremonïol y Faeryddiaeth yw elfen amlycaf y flwyddyn yn y swydd - mewn digwyddiadau fel rhoi rhyddid y ddinas i 'Bersonau Anrhydeddus'. Mae Tywysoges Cymru, Is-iarll Tonypandy, y Gwir Anrhydeddus James Callaghan, y Pab John Paul II, Nelson Mandela a Syr Tasker Watkins ymhlith y rheiny sydd wedi derbyn yr anrhydedd hwn.  Rhaid anfon pob gohebiaeth neu wahoddiad ar gyfer yr Arglwydd Faer i'r Swyddfa Brotocol i’w hystyried, ac nid at yr Arglwydd Faer yn uniongyrchol. ​Ebost: YSwyddfaBrotocol@caerdydd.gov.uk​Ffon: 029 2087 1543  neu 029 2087 3403​Y Swyddfa BrotocolHawlfraint Y PlastyHeol RichmondCaerdyddCF24 3UN​ ​ Gweler hefyd Y​r Arglwydd Faer Dirprwy Arglwydd Faer Elusen ddewis yr Arglwydd Faer Yr Arglwydd Faer - Hanes ​​
© 2022 Cyngor Caerdydd