Yn hanesyddol, rhoddwyd Rhyddid y Ddinas gan drefi a dinasoedd i aelodau uchel eu parch o’r gymuned. Fodd bynnag, mewn cymdeithas gyfoes, mae Rhyddid y Ddinas yn tueddu i fod yn anrhydedd cwbl seremonïol, a roddir gan lywodraeth leol i’r rheini sydd wedi rhoi gwasanaeth eithriadol o ryw fath, neu i’r sawl yr hoffai’r Ddinas eu hanrhydeddu.
Mae rhoi anrhydedd Rhyddid y Ddinas yn ffordd o gydnabod y cyfraniad a wnaed gan unigolyn, cymdeithas neu sefydliad i fywyd Dinas Caerdydd.
Wrth ystyried enwebiad ar gyfer dyfarnu Rhyddid Anrhydeddus Dinas a Sir Caerdydd, rhaid i’r sawl a enwebwyd fodloni’r naill neu’r llall o’r meini prawf y cytunwyd arnynt:
- pobl nodedig, a
- phobl sydd, ym marn yr Awdurdod, wedi rhoi gwasanaeth amlwg i Ddinas a Sir Caerdydd.
Mae Caerdydd wedi rhoi Rhyddid Anrhydeddus y Ddinas i 62 o unigolion a 10 sefydliad ers ei sefydlu yn 1886.