Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Ymweld â Neuadd y Ddinas

Adeilad dinesig ym Mharc Cathays yw Neuadd y Ddinas. Mae’n gartref i rai o adrannau’r Cyngor. Mae’r adeilad hefyd yn cynnwys Siambr y Cyngor ac amryw ystafell fawr ar gyfer digwyddiadau. Mae Swyddfa Gofrestru Caerdydd hefyd yn Neuadd y Ddinas.​

Neuadd y Ddinas Caerdydd,
Ffordd Gerddi’r Orsedd,
Caerdydd,
CF10 3ND​
176887.375:318288.62109375||500







Bydd angen i chi fynd i’r brif dderbynfa a bydd y staff yno’n cysylltu â’r person rydych yn ymweld ag ef/â hi. Yna daw rhywun i’ch nôl o’r dderbynfa. Gofynnir i chi gofrestru a chewch fathodyn ymwelwr. Gellir trin rhai ymholiadau yn y dderbynfa ac os felly, ni fydd angen bathodyn.

Rhaid gwisgo bathodynnau adnabod, gan gynnwys bathodynnau ymwelwyr, bob tro yn yr adeilad.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Neuadd y Ddinas​​​​​​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd

Mae’r dderbynfa ar agor o 8am tan 4pm.
Hyn a hyn o lefydd parcio sydd yn Neuadd y Ddinas Cynghorir ymwelwyr i ddefnyddio’r mannau parcio ar y stryd yn Neuadd y Ddinas a rhannu ceir pan fo’n bosibl. Ni all Cyngor Caerdydd gadw llefydd parcio i ymwelwyr ac eithrio pan fo angen trefniadau arbennig i ddadlwytho offer a.y.b. Mae lle parcio anabl wrth flaen y brif fynedfa a gellir mynd yno trwy’r bolardiau ym mynedfa’r dwyrain.

Mae mannau parcio hefyd ar gael yn Stablau’r Castell a Heol y Gogledd​

Mae mannau parcio eraill yn Heol y Brodyr Llwydion a Dumfries Place gerllaw.

Dylai ymwelwyr â gofynion mynediad penodol gysylltu â Neuadd y Ddinas ymlaen llaw.

*Gallai’r costau parcio newid.​
Mae mynediad i gadeiriau olwyn yn Neuadd y Ddinas. O lefel y stryd, mae lifft cadair olwyn yn rhoi mynediad i’r llawr gwaelod ac mae lifft arall ar gael at y llawr cyntaf. Mae’r llawr gwaelod a’r llawr cyntaf yn wastad ac eithrio Siambr y Cyngor lle mae grisiau i fynd i’r ystafell.

Mae toiledau ar gyfer ymwelwyr anabl.

Os oes gennych chi ofynion mynediad penodol, cysylltwch â Neuadd y Ddinas ymlaen llaw.​


Swyddfa Gofrestru
Archifau Morgannwg
Clos Parc Morgannwg
Caerdydd
CF11 8AW​


Am ragor o wybodaeth am y swyddfa gofrestru a’r gwasanaethau a gynigir, ewch i wefan y Swyddfa Gofrestru​​​​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd




​​​​​​​​​​​​​​​​​​
© 2022 Cyngor Caerdydd