Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Cynllun Cymorth Achredu'r Cyflog Byw

​​​​​​​​​​Mae Cyngor Caerdydd wedi bod yn gyflogwr y Cyflog Byw er 2015 ac rydyn ni o’r farn bod talu'r Cyflog Byw yn ddangosydd allweddol o ymrwymiad cyflogwr i arferion gwaith teg. 

Dyna pam ein bod yn gweithio i hyrwyddo’r Cyflog Byw ar draws y gymuned fusnes leol ehangach.

Ein nod yw cynorthwyo ac annog cynifer o fusnesau lleol â phosibl i ymrwymo i dalu’r Cyflog Byw i'w cyflogeion.​

Rydym yn cynnig cymorth ariannol i fusnesau Caerdydd o hyd at £720 os dônt yn gyflogwyr y Cyflog Byw achrededig​.​


Mae lefel y cymorth ariannol a gallwch ei gael yn dibynnu ar ba fath o sefydliad ydych chi a sawl cyflogai sydd gennych. Gallech hawlio hyd at £720.

  Math o Sefydliad 0 i 10 cyflogeion 11 i 50 cyflogeion 51 i 250 cyflogeion
Sector preifat£198
£396
£792
Sector cyhoeddus ac elusennau£198
£396
£792​

I fod yn gymwys am y grant, rhaid i’ch busnes sydd wedi’i leoli yng Nghaerdydd gael ei achredu gan Sefydliad y Cyflog Byw. Mae ffi fechan am hyn – gweler y tabl isod. Mae’r cymorth ariannol a gynigir yn daliad untro, ac ni ellir ei ôl-ddyddio, a bydd ar sail y cyntaf i’r felin nes i ni ddyrannu hyd at £50,000. Os oes gennych ddiddordeb:


 

O fis Ebrill 2023

Math o Sefydliad 0 i 10 cyflogeion 11​ i 50 cyflogeion 51 i 250 cyflogeion 251 i 500 ecyflogeion500+ ​​​cyflogeion
Sector preifat£66
£132
£264
£528
£3,303
Sector cyhoeddus ac elusennau£66
£132
£264
£528
£528

 

I ddod yn gyflogwr Cyflog Byw achrededig swyddogol, mae angen i chi gwblhau ffurflen fer i gadarnhau eich bod yn talu’r Cyflog Byw i’ch holl staff a bod gennych gynllun i dalu unrhyw un sy’n gweithio ar eich safle, fel glanhawyr a chontractwyr, y cyflog byw. Mae hyn yn sicrhau y gall y bobl ar waelod eich cadwyn gyflenwi dalu am eu hanghenion sylfaenol.


 

Cynnal Cymru​​​​​​​​​ yw corff achredu swyddogol Sefydliad y Cyflog Byw yng Nghymru. Mae achredu’n broses gyflym, a chaiff trwyddedau eu prosesu ymhen 10 diwrnod gwaith.


 


Cysylltu â ni
​​​ ​​​​ ​​​
© 2022 Cyngor Caerdydd