Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Rheoli Risgiau

Mae gan Gyngor Dinas Caerdydd Gofrestr Risg Gorfforaethol sy'n nodi'r risgiau strategol y mae’r cyngor yn eu hwynebu. Yn ogystal, mae Cyfarwyddiaethau, Rhaglenni a Phrojectau yn creu cofrestrau risg sy’n cofnodi ac yn monitro eu risgiau; caiff y rhain eu hadolygu’n rheolaidd.
Drwy fod yn fwy ymwybodol o risg, bydd y Cyngor mewn sefyllfa well i reoli bygythiadau a manteisio ar gyfleoedd.

Rydym yn ymrwymedig i fod yn rhagweithiol wrth reoli risgiau er mwyn sicrhau bod y broses yn dod yn un annatod yn ein sefydliad. Bydd nodi ac asesu’r risgiau yn glir yn arwain at ddefnyddio adnoddau’n fwy effeithiol ac yn sicrhau gwelliannau uniongyrchol i’r gwasanaeth i’n cwsmeriaid a’n rhanddeiliaid, yn ogystal â gwella llywodraethu a pherfformiad corfforaethol.

Darllenwch Bolisi a Strategaeth Rheoli Risg (1.16mb PDF)​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd y Cyngor

​​
© 2022 Cyngor Caerdydd