Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Project Trin Gwastraff Organig Caerdydd

Mae gwasanaethau rheoli gwastraff cynaliadwy yn elfen hanfodol o ymatebion byrdymor, tymor canolig a hirdymor y Cyngor i heriau amgylcheddol a lleihau carbon y mae Caerdydd a Chymru yn eu hwynebu. Mae Llywodraeth Cymru (LlC) wedi ymrwymo i ddarparu trawsnewidiad hirdymor o ran rheoli ailgylchu a gwastraff cynaliadwy ac mae wedi paratoi strategaeth glasbrint i Gymru ailgylchu 70% erbyn 2025 a chyrraedd sefyllfa ddiwastraff erbyn 2050. 


Mae’r duedd barhaus o ddefnyddio safleoedd tirlenwi i ddefnyddio gweithfeydd trin gwastraff ac ailgylchu yn rhan o bolisi cenedlaethol a lleol dan dargedau ailgylchu deddfwriaethol a statudol, gyda dirwyon posibl o £200 fesul tunnell am fethu â gwneud hyn. Yn ogystal, mae’r Gyfarwyddeb Tirlenwi Ewropeaidd yn pennu targedau llym i leihau faint o wastraff a anfonir i safleoedd tirlenwi i’w waredu. Mae terfynau blynyddol penodol ar dunelli gwastraff bioddiraddadwy a anfonir i safleoedd tirlenwi wedi’u nodi ar gyfer pob awdurdod lleol yng Nghymru drwy Reoliadau Cynllun Lwfansau Tirlenwi (Cymru) 2004, gyda dirwyon pellach o £200 fesul tunnell o wastraff bioddiraddadwy a anfonir i safleoedd tirlenwi dros y terfynau hyn. 


Mae Caerdydd yn ailgylchu tua 50% ar hyn o bryd. Mae elfen allweddol o wella perfformiad yn ymwneud â chasglu a thrin gwastraff bwyd a gwastraff gwyrdd a ddidolir. Ni all deunydd gael ei gyfrif yn ‘ddeunydd wedi’i ailgylchu’ nes y bydd wedi’i brosesu, bod unrhyw ddeunydd sydd wedi’i halogi wedi’i symud ymaith a bod cynnyrch newydd wedi’i gynhyrchu; nid yw ailgylchu yn cael ei gyfrifo drwy’r hyn sy’n cael ei gasglu.  Mae’n hanfodol felly bod rheolaethau cadarn ar waith i sicrhau bod lefel uchel o wastraff bwyd a gwastraff gwyrdd yn cael ei hailgylchu ar ôl gwneud casgliadau.  Er mwyn annog y cyhoedd i ailgylchu mwy ac annog awdurdodau i osgoi dirwyon ariannol a roddir gan y Gyfarwyddiaeth Tirlenwi a’r dirwyon ar gyfer methu Targedau Ailgylchu Statudol Llywodraeth Cymru, a nodir uchod, mae’n rhaid ailgylchu a chompostio o leiaf 58% ar gyfer y flwyddyn lawn 2015/16, 64% erbyn 2019/20 a 70% erbyn 2024/25. 


Aeth yr Awdurdod ati, mewn partneriaeth â Chyngor Bro Morgannwg, i ddod o hyd i ddatrysiad Trin Gwastraff Organig hirdymor ar ddechrau 2012 i sicrhau bod ei wastraff bwyd a’i wastraff gwyrdd bioddiraddadwy yn cael eu trin mewn ffordd gynaliadwy ac nac ydynt yn cael eu hanfon i safleoedd tirlenwi, gan felly leihau ei effaith ar yr amgylchedd a diogelu ei gyfraniad at dargedau Ailgylchu a Chompostio Gwastraff Dinesig Caerdydd. 


Mae Cyngor Caerdydd wedi caffael contract gwasanaeth, drwy broses gystadleuol, ar gyfer cyfleuster Treulio Anaerobig (AD) a Chyfleuster Rhesgompostio Agored (OWC) i drin ei wastraff bwyd a’i wastraff gwyrdd/gardd a ddidolir, dros gyfnod o 15 mlynedd.  Mae’r project wedi’i gaffael fel rhan o Raglen Trin Gwastraff Bwyd Llywodraeth Cymru, sy’n cefnogi Cynghorau gyda chyllid caffael a chymorth refeniw parhaus (ar gyfer ailgylchu gwastraff bwyd) i gyrraedd eu targedau ailgylchu statudol rhwng nawr a 2024/25. 


Yn dilyn proses gystadleuol ddwys ac “Archwiliad Iechyd” trwyadl Llywodraeth Cymru o’r project yn haf 2014, mae Kelda Organic Energy (Cardiff) Ltd nawr wedi ennill contract i adeiladu a gweithredu cyfleuster Treulio Anaerobig a chyfleuster Rhesgompostio Agored yn y ddinas. Disgwylir i’r gwasanaeth ddechrau gweithredu ym mis Mawrth 2017. Mae’r ddau gyfleuster eisoes wedi sicrhau caniatâd cynllunio. 


Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Dinas Caerdydd, “Drwy arwyddo’r contract gyda Kelda, dyma ddechrau partneriaeth 15 mlynedd rhwng Kelda, Cyngor Dinas Caerdydd a Chyngor Bro Morgannwg i ddarparu ffyrdd arloesol o drin gwastraff organig. Mae'r contract hwn yn atgyfnerthu ein hymrwymiad i gyrraedd safonau statudol Llywodraeth Cymru wrth i ni weithio tuag at nod ‘Di-wastraff’ ar gyfer 2050. Bydd y cyfleuster newydd yn defnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf a fydd yn trin ac yn ailgylchu gwastraff organig a hefyd yn creu ffynonellau cynaliadwy o ynni a chyfrwng cynyddol o ddulliau ffermio âr.” 


Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Bro Morgannwg: “Mae’n bleser gennym allu gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Dinas Caerdydd i ddarparu’r cyfleusterau trin gwastraff organig. Mae'r cyfleusterau’n dangos ein hymrwymiad i leihau gwastraff a rhoi hwb i ailgylchu a chynaliadwyedd. Bydd y dechnoleg arloesol a ddatblygwyd gan gyfleuster Kelda yn creu ynni glân o wastraff cegin ein trigolion. Mae nawr gennym ddatrysiad hirdymor cynaliadwy ar gyfer compostio gwastraff organig Bro Morgannwg.” 


Dywedodd Tom Hall, Cyfarwyddwr Masnachol Busnes Kelda, “Rydyn ni wrth ein boddau o lofnodi’r contract hirdymor â Chyngor Caerdydd a Chyngor Bro Morgannwg. Bydd y ddau gyfleuster, ar ôl eu hadeiladu, yn trin gwastraff bwyd a gwastraff gwyrdd y Cynghorau, gan greu ynni adnewyddadwy a gwrtaith cynaliadwy a ailgylchir ar gyfer amaeth lleol. Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at barhau i weithio gyda’r Cynghorau i godi cyfraddau ailgylchu a chefnogi ymrwymiad y Cynghorau a Chymru i gyrraedd targedau di-wastraff.”

© 2022 Cyngor Caerdydd