Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Ein cynllun i sicrhau’r tai gorau ar gyfer pobl hŷn

Gweithio mewn partneriaeth ag adrannau Iechyd a Landlord Cymdeithasol Cofrestredig (LCC) i ddatblygu cynllun sy’n seiliedig ar dystiolaeth er mwyn datblygu tai fforddiadwy ar gyfer pobl hŷn, gan gynnwys y rheiny sy’n byw â dementia ac amrywiaeth eang o anghenion gofal.

Darparu isafswm o 741 o gartrefi newydd ar gyfer pobl hŷn erbyn 2030 y bydd 434 ohonynt yn gartrefi cyngor, 207 yn gartrefi gyda Landlord Cymdeithasol Cofrestredig a 100 i bobl hyn eu prynu, a datblygu cynigion ychwanegol yn rhan o’n hymrwymiad i adeiladu 2,000 o gartrefi newydd.

Cynyddu’r cyflenwad o dai ‘parod ar gyfer gofal’ i bobl hŷn sy’n addas ar gyfer heneiddio yn y lle ac sy’n galluogi darpariaeth o ofal yn y cartref.


Gweithio gyda phartneriaid Landlord Cymdeithasol Cofrestredig i ddeall cyflwr tai presennol y ddinas ar gyfer pobl hŷn gan gynnwys y potensial i’w defnyddio yn y dyfodol. Adolygu pob eiddo “oedran-ddynodedig” y Cyngor er mwyn gwella hygyrchedd.

Parhau i ailwampio ein stoc o dai gwarchod ar sail fesul cynllun, gan sicrhau achrediad y Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Ddall (RNIB) ar gyfer y cynlluniau sydd wedi eu hailwampio.

Gweithio tuag at roi’r Polisi Cynllunio Cymru newydd ar waith yn llawn fel y mae’n ymwneud â thai pobl hŷn, gan gynnwys y defnydd o Ganllawiau Cynllunio Atodol lle bo’n briodol.

Fel rhan o’r paratoadau ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol nesaf, pennu targed ar gyfer darpariaeth o dai i bobl hŷn sy’n agos at y canolfannau newydd lleol neu o gwmpas iddynt, a gweithio gyda datblygwyr i fwrw’r targed hwn.
  • Darparu cyngor arbenigol ar dai i bobl hŷn i’w helpu i ddeall eu dewisiadau tai.

  • Sicrhau bod cyngor a gwybodaeth ar gael ar ein gwefannau, mewn Hybiau a thrwy ddigwyddiadau gwybodaeth.

  • Cefnogi pobl ag anableddau i gael mynediad i eiddo wedi’i addasu.

  • Hyrwyddo Tai Gofal Ychwanegol fel dewis arall i ofal preswyl ac fel cam i lawr o’r ysbyty.

  • Hwyluso cyfnewidiadau rhwng tenantiaid cymdeithasol trwy wybodaeth a ddelir ar y Rhestr Aros Tai.. 

  • Cefnogi pobl hŷn i symud i lety llai, mwy priodol.
  • Parhau i ddatblygu’r Gwasanaeth Byw’n Annibynnol i helpu pobl hŷn i aros yn annibynnol yn eu cartrefi a gweithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau y cynhelir cyllid ar gyfer hyn.

  • Parhau a’n hymrwymiad i ddarparu addasiadau i’r anabl er mwyn sicrhau bod pobl hŷn yn gallu aros yn annibynnol yn eu cartrefi.

  • Adlewyrchu dewisiadau tai ac anghenion cymdeithasol ehangach pobl hŷn yn well yn y Polisi Dyrannu Tai Cymdeithasol, gan ystyried allgau cymdeithasol, rhwydweithiau cymorth a’r a  chymuned. Sicrhau bod y polisi’n cefnogi’r rhai sydd am symud i lety llai.

  • Gweithio i ddeall sut mae crefydd yn effeithio ar anghenion tai.
  • Gwella dyraniad llety i bobl hŷn, gofal ychwanegol ac wedi’i addasu, gan gynyddu’r wybodaeth sydd ar gael am anghenion a dyheadau unigolion a sicrhau bod blaenoriaeth i’r rheiny sydd ei angen fwyaf.

  • Adolygu darpariaeth y cynlluniau tai gwarchod i sicrhau ei bod yn diwallu anghenion pobl hŷn yn y dyfodol ac archwilio’r cyfle i uwchraddio rhai cynlluniau tai gwarchod presennol i “Tai Gwarchod Ychwanegol” neu “Ofal Ychwanegol Ysgafn”, i lefel angen uwch. 

  • Datblygu dulliau newydd o wasanaethau gofal, chymorth a nyrsio sy’n galluogi pobl i aros yn eu cartrefi eu a’u cymunedau eu hunain a darparu’r safon uchaf o gartrefi gofal i bobl sydd â’r anghenion mwyaf cymhleth.

  • Archwilio’r defnydd o dechnoleg newydd ymhellach i helpu pobl i aros yn annibynnol yn eu cartrefi’n hwy. 

  • Byddwn yn ystyried yr achosion cymorth yn ôl yr angen i ddeall yn llwyr anghenion cymorth unigolion â phroblemau iechyd meddwl yn llawn.
  • Gwneud defnydd gwell o'n Cynlluniau Byw yn y Gymuneud er mwyn cynnig gwasanaethau i'r gymuned ehangach, mewn partneriaeth â phartneriaid iechyd, gofal cymdeithasol a’r trydydd sector. ​

  • ​​Darparu gwasanaeth iechyd a lles newydd, gweithio trwy ein Hybiau a chyda phartneriaid i ddatblygu digwyddiadau, gweithgareddau ac amrywiaeth o gyngor iechyd er mwyn diwallu anghenion lles pobl hŷn.

  • Peilota dull newydd i weithwyr iechyd proffesiynol fynd i’r fael ag anghenion y person gan ei atgyfeirio i wasanaethau llesiant yn y gymuned.

  • ​Sicrhau bod pob aelod staff yr Hybiau yn cael cael hyfforddiant ymwybyddiaeth Cyfeillion Dementia a chynnal caffis dementia a sesiynau cefnogaeth yn yr Hybiau.
Dywedodd ymatebwyr a nododd eu bod yn ystyried symud yn y dyfodol bod y mathau canlynol o dai yn well ganddynt:

  • 46% Byngalo
  • 29% Tŷ
  • 21% Fflat
  • ​Byddai’n well gan 58% gael o leiaf ddwy ystafell wely​

Mae 44% o’r cleientiaid a holwyd yn ystyried symud yn y dyfodol

​Byddai 45% o’r rheiny sy’n rhentu a 23% o’r rheiny oedd yn berchen ar dŷ yn ystyried symud i dŷ penodol ar gyfer pobl hŷn.​
​​​​​
© 2022 Cyngor Caerdydd