Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Diwallu anghenion tai pobl hŷn

Mae Gwasanaethau Byw'n Annibynnol Caerdydd yn darparu cymorth i bobl hŷn aros yn annibynnol yn eu cartrefi. Cefnogwyd 70% o’r cleientiaid i aros yn eu cartrefu heb angen cynnwys Gwasanaethau Cymdeithasol.   

Mae’r Gwasanaeth Byw’n Annibynnol yn cael ei ariannu’n bennaf trwy grant gan Lywodraeth Cymru a gallai dyfodol y gwasanaeth hwn fod dan fygythiad  pe na fyddai cyllid wedi ei sicrhau ar gyfer y dyfodol.  

Rydym wedi buddsoddi mewn  cynnig addasiadau tai. Mae’r Gwasanaeth Cyfleusterau i’r Anabl yn gweithio’n dda, gan ddarparu addasiadau mewn modd amserol a chost-effeithiol sy’n cymharu’n dda â gweddill Cymru. Mae’n debygol y bydd y galw am addasiadau i’r anabl yn cynyddu, gan roi pwysau ar adnoddau presennol.

Pan ofynnwyd iddynt, roedd pobl hŷn yn anymwybodol yn aml o’r gwahanol ddewisiadau tai a oedd ar gael ac roeddent yn pryderu am y materion ariannol, cyfreithiol ac ymarferol sy’n gysylltiedig â symud. Bydd angen i ni wella’r cyngor arbenigol ar dai sydd ar gael i bobl hŷn.

Mae buddion sylweddol i bobl hŷn sy’n symud i gartref llai mwy priodol a gall hyn chwarae rhan bwysig wrth eu helpu i aros yn annibynnol yn eu cartrefi.​

Mae niferoedd mawr o bobl hŷn yn byw mewn eiddo tai cymdeithasol gyda mwy o ystafelloedd nag sydd eu hangen arnynt. Gallai cynnig dewisiadau tai deniadol iddynt eu hannog i symud i gartref llai a mwy addas, wrth ryddhau llety mawr ei angen i deuluoedd.

Rydym wedi bod yn llwyddiannus i raddau yn cynorthwyo tenantiaid cymdeithasol hŷn  i symud i lety llai ond mae prinder cymorth ar gael i berchnogion cartrefi a’r rhai yn y sector rhent preifat i’w helpu i symud i gartrefi llai.
Bydd darparu cymorth ar y safle mewn Cynlluniau Tai Gwarchod yn bwysig wrth ddiwallu anghenion cynyddol y bobl hŷn. Mae newidiadau i gyllido eisoes wedi arwain at ostyngiad i ryw raddau yn y cymorth sydd ar gael ac os bydd hyn yn parhau, bydd yn effeithio ar allu Tai Gwarchod i ddiwallu anghenion pobl hŷn.

Mae cyfle i ddarparu dulliau gwahanol o gymorth megis “Gwarchod Ychwanegol” neu “Gofal Ychwanegol Ysgafn” fel dewisiadau i ddiwallu’r amrywiaeth o anghenion y boblogaeth hŷn.
Nid yw’r broses bresennol o ddyrannu tai cymdeithasol yn ystyried dewisiadau tai’r ymgeiswyr hŷn na materion lles megis allgau cymdeithasol. Mae angen adolygu’r rhestr aros a’r trefniadau dyrannu er mwyn adlewyrchu dewisiadau tai ac anghenion ehangach pobl hŷn yn llawn.
Mae lleoliadau gofal preswyl wedi gostwng yn sylweddol dros y pum mlynedd diwethaf oherwydd y gwasanaethau sydd nawr ar gael yn y gymuned i gefnogi pobl eiddil yn eu cartrefi. Mae lleoliadau cartrefi nyrsio yn uwch na’r disgwyl ac os bydd y duedd hon yn parhau bydd angen creu 655 o welyau mewn cartrefi nyrsio yng Nghaerdydd erbyn 2035. ​

Er bod gwasanaethau teleofal presennol yn helpu llawer o bobl i aros yn annibynnol, mae cyfle i wneud mwy o ddefnydd o dechnoleg newydd i gefnogi pobl i aros yn eu cartrefi eu hunain.
Mae cysylltiad â’r gymuned yn bwysig i lesiant llawer o bobl hŷn.

Mae gan Gaerdydd amrywiaeth o wasanaethau i helpu i atal allgau cymdeithasol a gwella llesiant; mae llawer o’r rhain yn seiliedig ar ein Hybiau Cymunedol.

Rydym yn datblygu nifer o fentrau newydd i ategu hyn, gan gynnwys hybiau lles cymunedol newydd yng ngogledd a gorllewin y ddinas a chynigion i agor y cyfleusterau yng nghyf-adeiladau tai pobl hŷn i’r gymuned ehangach.​
​​​
© 2022 Cyngor Caerdydd