Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Casgliadau Gwastraff Gardd COVID-19

Caiff eich gwastraff gardd ei gasglu ar ddydd Sadwrn ym Mehefin ac wythnos gyntaf Gorffennaf.​​​


Cewch un casgliad ar ddydd Sadwrn o'ch eiddo yn ystod y mis. 


Ffeindiwch eich diwrnod casglu arferol yn y tabl i ddod o hyd i ddyddiad eich casgliad gwastraff gardd ym mis Mehefin neu 
Gorffennaf.​


Eich diwrnod casglu arferol ​Eich ardal Dyddiad eich casgliad gwastraff gardd untro​
​Dydd Gwener Rhiwbeina
Llanisien
Llys-faen
Y Mynydd Bychan
Yr Eglwys Newydd​
​Dydd Sadwrn 30 Mai
​Dydd Llun ​Creigiau/Sain Ffagan
Radur/Pentre-poeth
Y Tyllgoed
Pentyrch
Tongwynlais
Trelái
Caerau
​Dydd Sadwrn 6 Mehefin
​Dydd Mawrth ​Treganna
Ystum Taf
Llandaf
Felindre
Butetown
Grangetown
Glan-yr-afon
​Dydd Sadwrn 13 Mehefin
​Dydd Mercher ​Cyncoed
Pentwyn
Plasnewydd
Gabalfa
Cathays
Pen-y-lan
​Dydd Sadwrn 20 Mehefin
​Dydd Iau ​Pontprennau/Pentref
Llaneirwg
Trowbridge
Llanrhymni
Adamsdown
Tredelerch
Sblot
​Dydd Sadwrn 27 Mehefin
​Dydd Gwener ​Rhiwbeina
Llanisien
Llys-faen
Y Mynydd Bychan
Yr Eglwys Newydd​
​Dydd Sadwrn 4 Gorffennaf



Defnyddiwch eich cynhwysydd gwastraff gardd arferol.

  • Os ydych chi ar y cynllun biniau olwynion, defnyddiwch eich bin olwynion gwyrdd.
  • Os ydych chi ar y cynllun bagiau streipiau coch, defnyddiwch y sachau gwyn amldro.

Sylwer os bydd y gwastraff yn cael ei roi i’w gasglu gydag eitemau anghywir, ni chaiff ei gasglu.

​Yes Nage​
​​Dail​ ​Compost neu pridd
​Toriadau gwair Gwasarn anifeiliaid (gwair, gwellt, naddion pren a blawd llif)
Toriadau planhigion neu blodau ​Rwbel neu cerrig addurniadol
Brigau neu canghennau bach​ Eitemau gardd e.e. caniau dŵr
Bagiau ailgylchu gwyrdd
​Gwastraff cyffredinol
 ​
Bydd yr holl wastraff gardd sy’n cael ei gasglu ar wahân yn cael ei ddanfon at ein contractwr i gynhyrchu compost. Ni chaiff hwn ei anfon i'r Cyfleuster Adfer Ynni (ERF).
Rydym yn deall y gall fod gormod o wastraff gardd gennych, fodd bynnag, byddwn yn gallu casglu gwastraff gardd sy’n ffitio yn eich cynhwysydd gwreiddiol yn unig.

Mae'r sachau amldro, a'r biniau olwynion, o faint a phwysau y gall ein criwiau ei reoli’n ddiogel. Os cyflwynir gwastraff gormodol, ni allwn gwblhau'r holl rowndiau yn ddiogel ac mewn pryd.
Os oes lle gennych yn eich gardd, y ffordd fwyaf ecogyfeillgar o ymdrin â glaswellt wedi’i dorri a thocion gwrychoedd yw trwy gompostio gartref.

Gall hyn fod mor syml â rhoi eich holl doriadau mewn pentwr taclus mewn cornel yn yr ardd.

Cymysgwch hyn ag ychydig o bapur, cardfwrdd a phlicion llysiau i greu tomen a fydd yn dadelfennu o fewn rhai wythnosau i greu compost gwych y gellir ei ailddefnyddio yn yr ardd.

Peidiwch â rhoi gwastraff bwyd wedi'i goginio yn eich tomen gompost gartref.

Fel arall, rydym yn gofyn i breswylwyr storio unrhyw wastraff gardd gwyrdd ychwanegol yn eu gardd tan eu casgliad nesaf.
Oherwydd yr argyfwng presennol, ni allwn gynnig gwasanaeth ailgasglu gwastraff gardd. Os byddwch yn cyflwyno'ch gwastraff yn anghywir, ni fyddwn yn ei gasglu.

Rydym yn parhau i adolygu'r holl opsiynau rheoli gwastraff er mwyn darparu'r gwasanaeth gorau posibl yn ystod y pandemig COVID-19.


Gweld gwybodaeth ar ein casgliadau gwastraff ac ailgylchu

​​​​​​​​​​​​​​​​​
© 2022 Cyngor Caerdydd