Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Asesiad Lles Caerdydd

​Mae Asesiad Lles Lleol Caerdydd 2022, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2022, yn dadansoddi lles cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Caerdydd ac yn nodi'r cyfleoedd a'r heriau allweddol sy'n wynebu Caerdydd wrth iddi dyfu.

Cynhelir yr asesiad gan Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) Caerdydd bob 5 mlynedd, fel sy'n ofynnol o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Drwy nodi lle mae'r ddinas yn perfformio'n dda, lle mae angen iddi wella a'i heriau allweddol, bydd yr asesiad hwn yn helpu'r BGC i adolygu ei amcanion ar gyfer gwella lles Caerdydd a datblygu Cynllun Lles Lleol BGC diwygiedig, i'w gyhoeddi ym mis Mai 2023.

Mae Asesiad Lles Lleol Caerdydd yn cynnwys:

Yr Adroddiad Cefndirol (0.3MB)​​ Link opens in a new window sy'n rhoi trosolwg o'r fethodoleg a ddefnyddiwyd i greu'r asesiad, ochr yn ochr â'r sylfaen dystiolaeth ac adolygiadau ac asesiadau statudol a ystyrir.

Gweler rhagor  o wybodaeth am y sylfaen dystiolaeth a ddefnyddir Link opens in a new window i ddatblygu'r asesiad hwn, gan gynnwys setiau data dangosydd allweddol ar gyfer pob ward etholiadol yng Nghaerdydd.


© 2022 Cyngor Caerdydd