Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Child Friendly City


Mae hwn yn gam arwyddocaol tuag at gydnabyddiaeth ryngwladol Caerdydd fel un o Ddinasoedd sy’n Dda i Blant Unicef cyntaf y DU. 

Mae'r strategaeth yn amlinellu'r ffordd y byddwn yn mynd ati i adeiladu Caerdydd sy’n Dda i Blant.

Mae'n nodi gweledigaeth a rennir ar gyfer y ddinas ac yn nodi cyfres glir o nodau a chamau gweithredu y bydd y Cyngor a'i bartneriaid yn eu rhoi ar waith gyda'i gilydd. Drwy ganolbwyntio ar y nodau hyn, rydym yn anelu at wneud gwahaniaeth parhaol yn y meysydd sy'n flaenoriaeth i blant a phobl ifanc. Bydd ffocws neilltuol ar y plant a’r bobl sydd fwyaf agored i niwed, i sicrhau ein bod yn gwneud hawliau’n realiti i bawb. 

Bydd y camau a gymerir heddiw yn cael eu teimlo am genedlaethau i ddod. Felly, mae'n hanfodol bod plant a phobl ifanc yn cael eu hysbysu, eu bod yn cael llais ac yn gallu helpu i ddylanwadu ar benderfyniadau ynghylch ble maent yn byw, y gwasanaethau y maent yn eu derbyn a datblygiad y ddinas yn y dyfodol.

Mae'r Map Ffordd i Gaerdydd sy'n Dda i Blant hefyd ar gael (2.36mb PDF)​​​​​​​​​​​​​​Link opens in a new window. Comisiynodd aelodau o’r Bwrdd Cynghori Plant a Phobl Ifanc gartwnydd ar gyfer y rhaglen i ddarlunio Map Ffordd i Gaerdydd sy’n Dda i Blant er mwyn sicrhau bod pob oedran yn gallu cymryd rhan yn y strategaeth mewn ffordd hwyliog. Bydd hyn yn mynd ar daith o amgylch y ddinas gan godi ymwybyddiaeth o waith y rhaglen ar draws cymunedau.

Gweithio gyda'n gilydd i ddod yn Ddinas sy'n Dda i Blant

Mae'r Cyngor a Phartneriaid Gwasanaethau Cyhoeddus yn gweithio tuag at greu Dinas sy'n Dda i Blant. Ni yw'r Cyngor cyntaf yng Nghymru i wneud hyn a bydd y rhaglen 3 blynedd yn ein galluogi i gydweithio â thîm Dinasoedd a Chymunedau sy’n Dda i Blant Unicef i ymgorffori hawliau plant mewn llywodraethu, polisïau ac ymarfer lleol. 

Beth yw Dinas sy'n Dda i Blant a Menter Gymunedol? 

Mae creu Dinasoedd a Chymunedau sy’n Dda i Blant yn golygu ymrwymiad diffuant a pharhaus i hawliau plant. Mae'n ymwneud â chreu a chynnal lleoedd lle mae lleisiau, anghenion, blaenoriaethau a hawliau plant yn rhan annatod o bolisïau, rhaglenni a phenderfyniadau cyhoeddus. 

Felly nid yw'r term 'da i blant' yn ymwneud â chyfleusterau newid babanod a gofyn am farn plant ar gyfarpar chwarae yn unig - er bod y ddau yn bwysig. Mae mentrau sy’n dda i blant yn ymwneud â dod â phlant a chymunedau'n agosach at ei gilydd. 

Mae'n golygu cefnogi pob plentyn i fod y gorau y gall fod a'u helpu i ymgysylltu'n weithgar â'u cymunedau. Mae'n ymwneud â gwerthfawrogi plant, yma a heddiw, a gweithio mewn partneriaeth â chymunedau i gefnogi ac amddiffyn y plant mwyaf agored i niwed. 


​​​​​​​​
© 2022 Cyngor Caerdydd