Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Swyddi etholiad


Rydym yn hysbysebu swyddi etholiadol yn y cyfnod cyn Etholiadau a gaiff eu cynnal yng Nghaerdydd. 

Yr etholiad nesaf yw Dydd Iau 2 Mai 2024. 

Mae yna 3 swydd rydyn ni'n eu hysbysebu. 


Rhaid bod gan y Swyddog Llywyddu wybodaeth gadarn am y drefn bleidleisio a bydd yn gyfrifol am weithredu’r drefn yn yr orsaf bleidleisio.

Mae angen i'r Swyddog Llywyddu fod yn yr orsaf bleidleisio cyn i'r bleidlais ddechrau, o 6.30am tan 10pm.

Maent yn gyfrifol am: 

  • Ddiogelwch yr holl bapurau pleidleisio, gwaith papur swyddogol, a'r blwch pleidleisio.
  • Dilyn y weithdrefn briodol ar gyfer pleidleisio.
  • Atal unrhyw un rhag ymyrryd â'r broses bleidleisio. 
  • Cyfarwyddo a goruchwylio gwaith Clercod Pleidleisio.  
  • Sicrhau cyfrinachedd a diogelwch y bleidlais.
  • Trefnu cynllun yr orsaf bleidleisio.
  • ​Agor a chau'r orsaf bleidleisio ar amser.
  • Derbyn papurau pleidleisio dilys yn unig. 
  • Sicrhau bod pawb sydd ar y tîm etholiadol yn yr orsaf bleidleisio.   
  • Cadw pob arwydd a hysbysiad yn glir, yn weladwy ac yn eu lle drwy gydol y dydd.
  • Cadw mynedfeydd yn glir ac yn daclus.​
  • Cyfathrebu â rheoliwyr yr adeilad.​



Mae Clercod Pleidleisio’n cynorthwyo'r Swyddog Llywyddu i gynnal gorsaf bleidleisio. Nid oes gan Glercod Pleidleisio yr un cyfrifoldebau â'r Swyddog Llywyddu, ond dylent wybod yr holl weithdrefnau ar gyfer pleidleisio a sut i ddelio ag unrhyw broblemau.

Mae angen i Glercod Pleidleisio fod yn yr orsaf bleidleisio cyn i'r bleidlais ddechrau, o 6.30am tan 10pm.Ni allwch adael y safle yn ystod y cyfnod hwn.

Mae cyfrifoldebau eraill yn cynnwys:
  • Dilyn unrhyw gyfarwyddiad gan unrhyw un o’ch Swyddogion Llywyddu gydol y dydd a phan fydd y bleidlais yn cau.
  • Sicrhau cyfrinachedd a diogelwch y bleidlais.
  • Helpu gyda chynllun yr orsaf bleidleisio a monitro unrhyw giwiau, gweithredu fel cyfarchydd os oes angen. 
  • Gwirio bod pobl yn gymwys i bleidleisio yn yr orsaf bleidleisio hon.
  • Derbyn papurau pleidleisio dilys yn unig.
  • Cadw mynedfeydd yn glir ac yn daclus.
  • Cadw pob arwydd a hysbysiad yn glir, yn weladwy ac yn eu lle. 






​Bydd angen i’r Cynorthwy-ydd Cyfrif ddilyn cyfarwyddiadau a roddir i chi cyn y cyfrif. 


Bydd angen i chi fod yn yr orsaf gyfrif cyn i’r cyfrif ddechrau a nes bod y cyfrif yn gorffen.​ Ni allwch adael y safle yn ystod y cyfnod hwn ac ni chaniateir seibiannau ysmygu.

Eich cyfrifoldebau chi yw:

  • Gweithredu'n ddiduedd bob amser a thrin deunydd yn barchus ac yn gyfrinachol.
  • Dilysu’r papurau pleidleisio drwy eu hagor a’u gwahanu yn unol â chyfarwyddiadau eich uwch swyddog. 
  • Cyfrif yn gyflym ac yn effeithiol i bentyrrau yn unol â’r cyfarwyddiadau. Bydd sanau bysedd ar gael. 
  • Ailgyfrif papurau, os bydd eich uwch swyddog yn gofyn i chi.  
  • Aros yn amyneddgar pryd bynnag yr aiff eich uwch swyddog at y Bwrdd Rheoli i drafod y cyfansymiau dilysu ar gyfer y blwch y mae eich tîm wrthi’n gweithio arno. 
  • Cadw at yr holl reolau a chyfyngiadau sydd ar waith sydd wedi'u gosod gan eich uwch swyddog.

 ​




 

Cysylltu â​ ni


Cysylltu â ni



​​ ​





© 2022 Cyngor Caerdydd