Mae'r gofrestr etholiadol yn rhestru enwau a chyfeiriadau pawb sydd wedi’u cofrestru i bleidleisio. Fe'i defnyddir i sicrhau mai dim ond y rhai sydd â’r hawl a gaiff bleidleisio.
Caiff hefyd ei defnyddio:
- at ddibenion gweinyddu etholiadol,
- gan ymgeiswyr a phleidiau er mwyn ymgyrchu,
- er mwyn atal a chanfod troseddau,
- i wirio ceisiadau am fenthyciadau neu i gael credyd, ac
- ar gyfer gŵys i reithgor.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y gofrestr etholiadol ar
Wefan Swyddog y Comisiynydd.Dolen allanol yn agor mewn ffenest newydd
Y gofrestr agored
Mae'r gofrestr agored yn rhan o'r gofrestr etholiadol sydd ar gael i'w phrynu. Gall unrhyw berson, cwmni neu sefydliad ei phrynu. Er enghraifft, fe’i defnyddir gan fusnesau ac elusennau i gadarnhau enwau a chyfeiriadau.
Caiff eich enw a’ch cyfeiriad eu cynnwys ar y gofrestr agored oni bai eich bod yn gofyn iddynt gael eu dileu.
Ni fydd dileu eich manylion o'r gofrestr agored yn effeithio ar eich hawl i bleidleisio, nac ar eich statws credyd.
Sut y gallaf gael fy eithrio, neu fy nghynnwys yn y gofrestr agored?
Os penderfynwch nad ydych am i'ch manylion gael eu cynnwys yn y gofrestr agored, gallwch optio allan ar adeg cofrestru i bleidleisio. Mae'r opsiwn i optio allan ar gael ar y ffurflen gofrestru ar-lein ac ar y ffurflen bapur.
-
Eich enw llawn,
Cyfeiriad,
Dyddiad geni.
Nodwch a hoffech gael eich cynnwys neu eich tynnu oddi ar y gofrestr agored yn eich e-bost.
Cael mynediad i’r gofrestr
Cedwir y gofrestr etholiadol yn Archifau Morgannwg. Os ydych am weld y cofrestrau, bydd angen i chi wneud apwyntiad.