Mae'r gofrestr etholiadol yn rhestru enwau a chyfeiriadau pawb sydd wedi’u cofrestru i bleidleisio. Mae'r gofrestr yn cael ei diweddaru'n fisol.
Y gofrestr etholiadol lawn
Mae'r gofrestr etholiadol lawn yn rhestru enwau a chyfeiriadau pawb sydd wedi’u cofrestru i bleidleisio. Ni ellir ei gwerthu i unrhyw un. Byddai eich manylion ond yn cael eu defnyddio at ddibenion etholiadol neu’n cael eu rhoi i eraill er mwyn:
- atal a chanfod troseddau
- galw arnoch i wasanaethu ar reithgor
- gwirio ceisiadau am fenthyciadau neu gredyd
Ni roddir y gofrestr etholiadol lawn i adrannau eraill y Cyngor. Os ydych chi wedi symud, bydd angen i chi gysylltu ag adrannau eraill y cyngor i roi gwybod iddyn nhw.
Y gofrestr agored
Mae'r gofrestr agored yn fersiwn o'r gofrestr etholiadol y gall unrhyw berson, cwmni neu sefydliad ei phrynu.
Gallwch optio allan o'r gofrestr agored pan fyddwch chi’n cofrestru i bleidleisio.
Os ydych chi eisoes wedi cofrestru ac yn dymuno tynnu eich manylion oddi ar y gofrestr agored, cysylltwch â ni.
Y Canfasiad Blynyddol
O fis Gorffennaf bob blwyddyn, byddwn yn cysylltu ag aelwydydd i gadarnhau bod y manylion sydd ar y gofrestr etholiadol yn gywir. Y canfasiad blynyddol yw’r enw ar hyn.
Byddwn yn cysylltu â chi drwy’r post neu e-bost.
Rhaid i chi ymateb i gadarnhau neu ddiweddaru'r preswylwyr yn eich cartref. Os na fyddwch chi’n ymateb, bydd canfasiwr yn ymweld â'ch eiddo i sicrhau bod y manylion ar y gofrestr etholiadol yn gyfredol.
Darparu gwybodaeth fel Person Cyfrifol
Mae'n ofynnol i eiddo sy'n cynnwys nifer o ddeiliaid nad ydynt yn ffurfio un aelwyd fod ag un person cyfrifol i gwblhau'r canfasiad. Mae’r eiddo hyn yn cynnwys:
- Neuaddau prifysgol
- Cartrefi gofal preswyl
- Hostelau
- Tai Amlfeddiannaeth (TA)
Person cyfrifol yw unrhyw berson sydd â gwybodaeth, neu sy’n gallu cael gafael arni, yn gyfreithlon mewn perthynas â phob person sy'n byw mewn eiddo ac sy'n gymwys i gael ei gofrestru.
Os ydych chi'n berson cyfrifol, rhaid i chi roi gwybodaeth am y preswylwyr yn yr eiddo rydych chi'n gyfrifol amdanynt i'r Swyddog Cofrestru Etholiadol. Caniateir hyn o fewn rheoliadau'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) ac mae'n orfodol yn ôl y gyfraith fel y'i deddfwyd yn Rheoliad 23 o Reoliadau Cynrychiolaeth y Bobl 2001.
Fel arfer, bydd y Swyddog Cofrestru Etholiadol yn cysylltu â chi yn ystod y canfasiad blynyddol (o fis Gorffennaf i fis Tachwedd) i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am breswylwyr.
Ar ôl derbyn y wybodaeth gennych chi, bydd Swyddog Cofrestru Etholiadol yn cysylltu ag etholwyr cymwys sy'n byw yn yr eiddo hyn ac yn rhoi gwybod iddynt sut i gofrestru i bleidleisio.
Beth sy’n digwydd os na fyddwch yn ymateb
Mae'n ofyniad cyfreithiol i roi gwybodaeth i'r Swyddog Cofrestru Etholiadol. Gallech gael cosb droseddol o ddirwy hyd at £1,000 am fethu â darparu'r wybodaeth ofynnol.
Newid tenantiaid
Gallwch ddiweddaru'r Swyddog Cofrestru Etholiadol y tu allan i'r cyfnod canfasiad blynyddol os yw tenantiaid wedi symud allan neu i mewn i'r eiddo rydych yn gyfrifol amdano. Gellir cysylltu â chi hefyd y tu allan i’r cyfnod canfasiad blynyddol i gael y wybodaeth ddiweddaraf. Er enghraifft, cyn etholiad.
Cysylltu â ni
Os oes gennych chi gwestiynau, cysylltwch â ni.
Ffôn: 029 2087 2088
E-bost: gwasanaethauetholiadol@caerdydd.gov.uk
Gwasanaethau Etholiadol
Ystafell 263, Neuadd y Sir
Glanfa'r Iwerydd
Caerdydd
CF10 4UW