Mae rhai amgylchiadau lle y gallai fod angen trefniadau arbennig ar gyfer cofrestru a phleidleisio. Er enghraifft:
- nid oes gennych gyfeiriad sefydlog na pharhaol
- rydych chi’n pryderu bod eich manylion am ymddangos ar y gofrestr etholiadol am resymau diogelwch
- rydych chi’n aelod o'r lluoedd arfog, neu eu priod neu bartner sifil cofrestredig
Dim cyfeiriad sefydlog na pharhaol
Gallwch ddefnyddio'r ffurflen hon i gofrestru i bleidleisio os ydych:
- yn ddigartref neu heb gyfeiriad sefydlog,
- yn berson sydd wedi ei gadw yn y ddalfa, ond nid ydych eto wedi eich dyfarnu'n euog o unrhyw drosedd, neu
- yn glaf mewn ysbyty iechyd meddwl
Os na allwch chi lawrlwytho ac argraffu'r ffurflen, gallwch gysylltu â ni i ofyn am argraffiad o'r ffurflen hon.
Pleidleisio’n ddienw
Gallwch gofrestru i bleidleisio’n ddienw os ydych yn poeni bod eich enw a'ch cyfeiriad am ymddangos ar y gofrestr etholiadol am resymau diogelwch.
Ni fydd eich enw na'ch cyfeiriad yn ymddangos ar y gofrestr etholiadol. Ni fyddwn yn datgelu eich manylion i unrhyw un, oni bai ei bod yn ofynnol i wneud hynny’n gyfreithiol.
Os na allwch chi lawrlwytho ac argraffu'r ffurflen hon, gallwch gysylltu â ni i ofyn am argraffiad o'r ffurflen hon.
Rydych chi yn y lluoedd arfog
Os ydych yn aelod o'r lluoedd arfog, yn blentyn i aelod o'r lluoedd arfog, neu'n briod ag neu’n bartner sifil cofrestredig i aelod o'r lluoedd arfog, gallwch gofrestru i bleidleisio.
Mae'r ffurflen yn caniatáu i chi gael eich cofrestru am 5 mlynedd mewn cyfeiriad sefydlog yn y DU hyd yn oed os ydych chi'n symud o gwmpas.
Rhaid i chi adnewyddu eich cais bob 5 mlynedd, ond gallwch ei ganslo unrhyw bryd. Mae cofrestru fel pleidleisiwr o’r Lluoedd Arfog yn arbennig o ddefnyddiol os ydych wedi'ch lleoli dramor neu'n credu y gallech gael eich anfon dramor yn ystod y blynyddoedd nesaf.
Cofrestru drwy'r post
Rydych yn Was y Goron neu’n gyflogai gyda’r Cyngor Prydeinig
Os ydych yn Was y Goron (yn y gwasanaeth diplomyddol neu'r gwasanaeth sifil tramor) neu'n gyflogai gyda’r Cyngor Prydeinig, gallwch gofrestru i bleidleisio yn y DU.
Gallwch gofrestru fel Gwas y Goron neu gyflogai gyda’r Cyngor Prydeinig:
- os ydych chi’n gweithio y tu allan i'r DU fel Gwas y Goron (e.e. yn y gwasanaeth diplomyddol neu wasanaeth sifil tramor)
- neu fel cyflogai gyda’r Cyngor Prydeinig
- os ydych chi’n briod â neu’n bartner sifil cofrestredig i Was y Goron neu gyflogai gyda’r Cyngor Prydeinig ac yn mynd gyda nhw yn ystod eu cyflogaeth dramor
- os yw eich rhiant neu'ch gwarcheidwad yn Was y Goron neu'n gyflogai gyda'r Cyngor Prydeinig ac rydych chi'n byw dramor gyda nhw.
Cofrestru drwy'r post
Cysylltu â ni
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os oes angen cymorth, cysylltwch â ni.
Ffôn: 029 2087 2088
E-bost: gwasanaethauetholiadol@caerdydd.gov.uk
Gwasanaethau Etholiadol
Ystafell 263, Neuadd y Sir,
Glanfa'r Iwerydd
Caerdydd
CF10 4UW