Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Hysbysebu gyda ni

​​​​​Gyda phoblogaeth breswyl o 350,000 a mwy na 15 miliwn o ymwelwyr bob blwyddyn, Caerdydd, prifddinas Cymru, yw ffenestr siop fwyaf y wlad i hysbysebu a hyrwyddo eich busnes neu ddigwyddiad. 


Mae hysbysebu yn yr awyr agored yn cynnig cyfle gwych i gysylltu â’r ddinas a chyrraedd y boblogaeth anferthol hon yn effeithiol. Mae'r dulliau a gynigir isod yn dangos bod hysbysebu yn yr awyr agored yn effeithiol, yn eich galluogi i gysylltu yn uniongyrchol â’ch cynulleidfa, yn berthnasol i’r gynulleidfa ac yn pwyso arnynt i weithredu yn ogystal â chynnig lleoliadau i chi ledaenu eich neges i gwsmeriaid posibl.





Gallech elwa o hysbysebu ar fwy na 200 o faneri ffotograffig gweladwy iawn o ansawdd da a leolir ar strydoedd mawr masnachol, llwybrau cymudo a lleoliadau mewn cymdogaethau prysur ledled Caerdydd. Mae’r baneri yn cynnig cyfle heb ei ail i ledaenu eich neges i siopwyr, busnesau ac ymwelwyr â’r ddinas. Mae Hysbysebion Uchel 2.5 gwaith yn fwy tebygol o brocio’r cof nac unrhyw hysbyseb ar lefel daear, sy’n golygu y bydd eich gwariant ar hysbysebion yn mynd ymhellach. 


Os nad oes gennych gyllideb fawr iawn does dim rhaid i chi boeni! Mae Baneri ar Bolion Lamp Uchel yn ddull hyblyg sy’n golygu y gallwch ddefnyddio 100 o faneri mewn nifer o leoliadau,  i’w gweld ym mhob cwr o’r gymdogaeth, neu ddefnyddio dim ond ychydig ohonynt y tu allan i’ch lleoliad neu fusnes i hyrwyddo digwyddiad neu ymgyrch benodol. 


Mae ein dyfynbrisiau bob amser yn cynnwys costau cynhyrchu a gosod y baneri, ac rydym yn delio â phopeth, gan gynnwys cynnig cyngor arbenigol i sicrhau bod eich ymgyrch yn weladwy ac effeithiol.

Maint Baner : Fformat portread 2,000mm x 785mm (wyneb dwbl). Gallwn ddarparu gwaith celf am £50 fesul dyluniad

Amserlen : 7 diwrnod gwaith (o ddyddiad cadarnhau’r archeb  a chymeradwyo gwaith celf)

I hysbysebu ar ein Baneri Polion Lamp Uchel yng Nghaerdydd ffoniwch 020 8343 2525 a siaradwch ag un o’r staff gwerthu profiadol a fydd yn esbonio’r gofynion i chi, neu anfonwch e-bost i directsales@baymedia.co.uk  i gael rhagor o wybodaeth.

Gallech elwa o hysbysebu ar dros 500 o faneri ansawdd ffotograffig hynod weladwy yng nghanol dinas Caerdydd. Mae’r baneri yn cynnig cyfle heb ei ail i ledaenu eich neges i siopwyr, busnesau ac ymwelwyr â’r ddinas, gyda chyfanswm ymwelwyr cyfunol o dros 40 miliwn y flwyddyn. Mae Hysbysebion Uchel 2.5 gwaith yn fwy tebygol o brocio’r cof nag unrhyw hysbyseb ar lefel daear, sy’n golygu y bydd eich gwariant ar hysbysebion yn mynd ymhellach.

Os nad oes gennych gyllideb fawr iawn does dim angen i chi boeni! Mae Baneri Polion Lamp Uchel yn ddull hyblyg sy’n golygu y gallwch ddefnyddio baneri mewn nifer o leoliadau ar draws canol y ddinas neu ddim ond ychydig ohonynt y tu allan i’ch lleoliad neu fusnes i hyrwyddo digwyddiad neu ymgyrch benodol. 

Mae ein dyfynbrisiau bob amser yn cynnwys costau cynhyrchu a gosod y baneri, ac rydym yn delio â phopeth, gan gynnwys cynnig cyngor arbenigol i sicrhau bod eich ymgyrch yn weladwy ac effeithiol.

At ei gilydd, mae'r fformat yn opsiwn cryf i fusnesau sy'n ceisio cynyddu eu gwelededd a'u cyrhaeddiad yn y ddinas.

Amserlen: 7 diwrnod gwaith (o ddyddiad cadarnhau’r archeb a chymeradwyo gwaith celf).

I hysbysebu ar ein Baneri Polion Lamp Uchel yng Nghaerdydd ffoniwch 020 8343 2525 a siaradwch ag un o’r staff gwerthu profiadol a fydd yn esbonio’r gofynion i chi, neu cysylltwch â directsales@baymedia.co.uk i gael rhagor o wybodaeth.​
Archebwch eich ymgyrchoedd arbrofol gyda ni!

Gallwch gael mynediad i 13 o ofodau actifadu brand sy’n denu llawer o ymwelwyr yng nghanol dinas Caerdydd, gyda 40 miliwn o ymwelwyr y flwyddyn ac economi ddydd o £1.2 biliwn.

Mae gan Gaerdydd fwy na 30 o gylchfannau i’w noddi mewn ardaloedd traffig prysur. Mae’r arwyddion amlwg yn wynebu ffyrdd ymadael ar gylchfannau gan sicrhau presenoldeb eich busnes a hyrwyddo eich brand drwy gydol y flwyddyn. Caiff yr arwyddion hyn eu llunio â deunyddiau o ansawdd da a'u cynnal a’u cadw drwy gydol y flwyddyn. Mae noddi cylchfan yn ddull cost-effeithiol o sicrhau bod eich arwydd yn weladwy i hyd at 50,000 o gerbydau  bob dydd yn ogystal â bod yn ffordd o gysylltu â'ch cynulleidfa darged yn gyson!

Maint Arwyddion: Fformat tirlun 1,800mm x 922mm, 1,250mm x 746mm neu 800mm x 746mm (yn dibynnu ar faint a lleoliad y gylchfan). Gallwn ddarparu gwaith celf am £50 fesul dyluniad

Amserlen: 14 diwrnod gwaith (o ddyddiad cadarnhau’r archeb a chymeradwyo gwaith celf)

I Noddi Cylchfan yng Nghaerdydd ffoniwch 01394 672467 a siaradwch ag un o’r staff gwerthu profiadol a fydd yn esbonio’r gofynion i chi, neu anfonwch e-bost i sales@marketingforce.co.uk i gael rhagor o wybodaeth.

Mae gennym fflyd o 10 Lori Sbwriel yn aros i arddangos eich neges! Mae hysbysebu ar ein cerbydau sbwriel ac ailgylchu yn ddull gweladwy o hyrwyddo eich brand a chyrraedd cynulleidfa eang. Bydd eich hysbyseb yn cael ei osod ar y cerbyd gan ddefnyddio system ddi-ffrâm sy'n golygu y gellir defnyddio ffotograffau finyl o ansawdd da i hyrwyddo eich busnes neu ddigwyddiad i safon uchel iawn. 


Mae ein cerbydau yn teithio yn ôl ac ymlaen drwy ganol y ddinas, ar briffyrdd a ffyrdd ochr, ar hyd rhodfeydd a ffyrdd caeedig, sy'n golygu y bydd eich hysbyseb yn hynod weladwy. Yn dibynnu ar ofynion eich ymgyrch gallwn sicrhau bod eich hysbyseb yn targedu ardaloedd penodol neu'r gymuned gyfan, gan eich helpu i gyrraedd y gynulleidfa briodol. Mae’r paneli’n gwrthsefyll tywydd gwael ac felly byddant yn aros yn lân ac yn glir drwy gydol eich ymgyrch.


Maint Finyl: Mae hyn yn dibynnu ar faint y cerbyd ond yn gyffredinol y maint yw 3,000mm x 1,250mm. Gallwn ddarparu gwaith celf am £50 fesul dyluniad

Amserlen: 14 diwrnod gwaith (o ddyddiad cadarnhau’r archeb a chymeradwyo gwaith celf)

 

I elwa ar Noddi Hysbyseb Symudol yng Nghaerdydd ffoniwch 020 8343 2525 a siaradwch ag un o’r staff gwerthu profiadol a fydd yn esbonio’r holl ofynion i chi, neu anfonwch e-bost i directsales@baymedia.co.uk i gael rhagor o wybodaeth.

Mae hwn yn ddull cost-effeithiol a thargedig. Defnyddiwch ein rhwydwaith o fwy na 100 o finiau sbwriel mewn lleoliadau dethol ledled Caerdydd i ledaenu eich neges ymhlith y boblogaeth drefol fawr. Bydd yr hysbyseb ar ffurf ffotograff finyl cryf iawn, o ansawdd da a osodir ar nifer o wahanol fathau o finiau sbwriel.


Mae’r biniau sbwriel dan sylw mewn lleoliadau sy'n derbyn nifer fawr o ymwelwyr ac ardaloedd masnachol prysur ledled y ddinas.  Mae’r dull hwn yn berffaith i ategu effaith eich ymgyrchoedd eraill, neu gellir ei ddefnyddio fel dull o hyrwyddo eich brand ar ei ben ei hun.

Maint Finyl: Fformat portread 297mm x 420mm neu 210mm x 297mm (yn dibynnu ar faint a lleoliad y bin sbwriel). Gallwn ddarparu gwaith celf am £50 fesul dyluniad

Amserlen: 7 diwrnod gwaith (o ddyddiad cadarnhau’r archeb a chymeradwyo gwaith celf)

I elwa o Noddi Hysbyseb Bin Sbwriel yng Nghaerdydd ffoniwch 020 8343 2525 a siaradwch ag un o’r staff gwerthu profiadol a fydd yn esbonio’r holl ofynion i chi, neu anfonwch e-bost i directsales@baymedia.co.uk i gael rhagor o wybodaeth.

Gyda 95 o fesuryddion parcio wedi’u gosod ar draws strydoedd prysuraf Caerdydd a thros 1 miliwn o docynnau’n cael eu cyflwyno bob blwyddyn, mae’r peiriannau parcio ceir yn lle gwych i dynnu sylw at eich brand.

I hysbysebu ar y sgriniau, cysylltwch â Route Media drwy ffonio 02922 338813 neu e-bostio sales@routemedia.co.uk​
A wyddech chi fod dros 30,000 o gerbydau yn dod i’n meysydd parcio bob wythnos.

Bellach, gallwch hysbysebu i’r gynulleidfa hon am gyn lleied â £250 y mis.

Mae astudiaethau’n dangos bod defnyddwyr ceir yn fwy tebygol o wario arian ar siopa, bwyd a manwerthu – felly rydym wedi creu dulliau ardderchog sy’n eich galluogi i gysylltu â’r gynulleidfa allweddol hon.

*Cynigir prisiau gostyngol i Ganolfannau Cymunedol ac Elusennau

Mae dros 350,000 o bobl yn byw yng Nghaerdydd ac mae 21 miliwn o ymwelwyr yn dod i’r ddinas fesul blwyddyn.

Mae noddi eiddo’r Cyngor yn ffordd gost effeithiol o gysylltu â’ch cynulleidfa a throsglwyddo eich neges gan ddangos eich ymrwymiad i Gaerdydd ar yr un pryd.

Mae’r holl brisiau ar gyfer arwyddion Ffiniol, Totem a Lleiniau Ymyl Ffordd, Iwnifformau, Meinciau a Phlanwyr yn seiliedig ar gost flynyddol ac wedi’u teilwra i’ch anghenion unigol.

*Cynigir prisiau gostyngol i Ganolfannau Cymunedol ac Elusennau



Ffoniwch 029 2233 0952 ar gyfer unrhyw ymholiadau hysbysebu a noddi mesurydd parcio neu maes parcio.

​​​
​​​​
© 2022 Cyngor Caerdydd