Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Cyfansoddiad

​​​Mae’r Cyfansoddiad​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd yn disgrifio sut mae’r Cyngor yn gweithredu, sut y caiff penderfyniadau eu gwneud a’r gweithdrefnau a ddilynir. Mae rhai o’r prosesau yn ofynnol yn ôl y gyfraith, gydag eraill mater i’r Cyngor yw dewis.

​Daeth y Cyfansoddiad i rym ar 30 Mai 2002 a chaiff ei adolygu a’i addasu gan y Cyngor yn ôl yr angen.  

Efallai bydd ychydig o oedi cyn diweddaru’r fersiwn ar y wefan, ond gall staff y Gwasanaethau Cyfreithiol roi gwybod i chi ai'r fersiwn ddiweddaraf yw unrhyw ran benodol o’r fersiwn ar ein gwefan. 

Caiff y cyfansoddiad ei rannu yn 15 Erthygl sy’n disgrifio’r rheolau sylfaenol sy’n llywodraethu busnes y Cyngor. Caiff gweithdrefnau a chodau manylach eu darparu mewn rheolau a phrotocolau ar wahân ar ddiwedd y ddogfen.  


Mae’r Swyddog Monitro’n gyfrifol am gadw’r copi Meistr o’r Cyfansoddiad a’i ddiweddaru’n ôl yr angen.​

I gael cymorth ac i wneud ymholiadau am y Cyfansoddiad, cysylltwch â Gwasanaethau Democrataidd.

​Ffô​n: 029 2087 2074

​​
© 2022 Cyngor Caerdydd