Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Cyllideb y Cyngor

​​​​​​​​Mae Cyllideb y Cyngor yn cynnwys dau brif faes - Refeniw a Chyfalaf. Mae Gwariant Refeniw yn cyfeirio at wario ar wasanaethau o ddydd i ddydd fel:

  • rhedeg ysgolion,
  • gofalu am bobl sy'n agored i niwed,
  • casglu gwastraff,
  • ​cynnal parciau a
  • gweithredu llyfrgelloedd.

Mae'r Gyllideb Refeniw'n nodi faint fydd yn cael ei wario yn y meysydd hyn mewn blwyddyn ariannol benodol, a sut y bydd hyn yn cael ei ariannu.

Mae gan Wariant Cyfalaf ffocws tymor hwy na gwariant refeniw. Mae'n cyfeirio at gaffael neu wella asedau, er enghraifft adeiladu ysgol newydd neu ail-wynebu'r briffordd. Mae'r Rhaglen Gyfalaf yn nodi cynlluniau gwariant cyfalaf a sut y telir amdanynt dros gyfnod o bum mlynedd. Mae'n rhaglen fuddsoddi sy'n cefnogi blaenoriaethau'r Cyngor ac yn helpu i gwrdd â'r heriau hirdymor sy'n wynebu'r ddinas. ​


Mae gosod y Gyllideb Refeniw ar gyfer 2024 i 2025 wedi bod yn heriol dros ben. Amcangyfrifir y bydd yn costio dros £57 miliwn yn fwy i'r Cyngor ddarparu gwasanaethau yn 2024 i 2025.

Mae cynnydd o 4.3% yng nghyllid y Cyngor o Lywodraeth Cymru, yn cwmpasu llai na hanner y cynnydd hwn mewn costau, gan adael bwlch o £30.3 miliwn sydd yn rhaid mynd i'r afael ag ef.

Fel yn y blynyddoedd blaenorol, wrth osod y gyllideb, mae'r rhan fwyaf o'r bwlch yn y gyllideb wedi'i gau drwy arbedion (£19.9m).

Mae'r gweddill wedi ei gau drwy gynnydd o 6.0% yn y Dreth Gyngor sy'n cynhyrchu incwm ychwanegol net o £10.4m. Bydd y cynnydd yn galluogi diogelu rhai o wasanaethau allweddol y Cyngor. Bydd y rhai sy'n gymwys yn derbyn cymorth drwy'r Cynllun Gostyngiad y Dreth Gyngor​.​

Mae'r Cyngor wedi parhau i flaenoriaethu arbedion effeithlonrwydd - mewn geiriau eraill arbedion sy'n darparu'r un peth (neu fwy) am lai o adnoddau heb unrhyw effaith ar y preswylydd neu cwsmer. Mae arbedion effeithlonrwydd cyfarwyddiaeth gwerth £10.5 miliwn yn rhan o Gyllideb 2024 i 2025, ac mae'r rhain yn eistedd cyd-fynd ag arbedion a mesurau corfforaethol pellach, gwerth £5.3 miliwn. Fodd bynnag, mae maint y bwlch yn y gyllideb yn golygu y bu’n rhaid gwneud gwerth £4.1 miliwn o arbedion sy'n cael effaith ar wasanaethau (cynigion newid i wasanaethau).

Mae'r cynigion newid i wasanaethau sydd wedi'u cynnwys yn y gyllideb yn gyson â chanfyddiadau ymgynghoriad cyllideb​ chwe wythnos y Cyngor a arweiniodd at bron i 9,000 o ymatebion. Maen nhw'n cynnwys cynnydd i’r pris a godir am wasanaethau â thâl​, fel ffioedd meysydd chwarae, parcio a gwasanaethau profedigaeth. Mae newidiadau i oriau gweithredu rhai gwasanaethau gan gynnwys Amgueddfa Caerdydd, y gwasanaeth mynwentydd, a Hybiau. Bu hefyd angen lleihau cyllidebau sy'n cefnogi digwyddiadau, parciau a Thimau Gweithredu Lleol. ​
O fewn yr amlen ariannu sydd ar gael, mae'r Gyllideb yn parhau i ddarparu cefnogaeth ar gyfer blaenoriaethau cryfach, tecach, gwyrddach​ y ddinas ac yn ystyried adborth ymgynghori, a nododd dair blaenoriaeth ariannu fwyaf y dinesydd fel:

  1. Ysgolion,
  2. Plant a Theuluoedd sy'n Agored i Niwed, a
  3. Oedolion a Phobl Hŷn sy’n Agored i Niwed.

​Mae buddsoddiad yn y meysydd hyn yn amlwg yn y Gyllideb Refeniw a’r Rhaglen Gyfalaf.

​Mae Cyllideb Refeniw 2024 i 2025 y Cyngor yn cynnwys £12.8 miliwn (+4.3%) o gyllid ychwanegol ar gyfer Ysgolion. Mae'r lefel hon o gynnydd yn gyson â chynnydd yn grant cyffredinol Llywodraeth Cymru i’r Cyngor. Mae’n cynnwys arian ychwanegol net gwerth £26.3 miliwn (+11.1%) i’r Gwasanaethau Cymdeithasol er mwyn cefnogi plant ac oedolion sy'n agored i niwed, a chyllideb net ychwanegol o £4.1 miliwn (8.6%) i’r Gwasanaethau Addysg Canolog. Mae Gwasanaethau Ailgylchu a Chymdogaethau, y nodwyd mai dinasyddion oedd eu blaenoriaeth uchaf ar ôl ysgolion a gofal cymdeithasol, yn un o'r ychydig iawn o wasanaethau na fydd yn gweld gostyngiad net yn y gyllideb yn 2024 i 2025. ​
Mae Strategaeth Cyfalaf y Cyngor ar gyfer 2024 i 2025 i 2028 i 2029​ yn cadarnhau ei ymrwymiad i fuddsoddiad sylweddol yn nyfodol y ddinas. Mae hyn yn cynnwys buddsoddiad mewn tai fforddiadwy (£716 miliwn) ac mewn adeiladau ysgol newydd a phresennol (£275 miliwn).

Mae'r rhaglen yn buddsoddi mewn seilwaith trafnidiaeth gwell, teithio llesol, gwella ansawdd aer, mynd i'r afael ag erydu arfordirol a mentrau datblygu economaidd fel yr Arena newydd sy'n cael ei hariannu'n bennaf trwy gyfraniadau gan ddatblygwyr.
Mae Cynllun Ariannol Tymor Canolig y Cyngor​ yn tynnu sylw at y ffaith y bydd y Cyngor, dros y pedair blynedd ar ôl 2024/25, yn wynebu bwlch cyllidebol pellach o £142 miliwn, oherwydd pwysau ariannol sy'n fwy na'r cyllid a ragwelir, a bydd angen mynd i’r afael â swm o £44 miliwn yn 2025 i 2026.

Wrth weithio i gau’r bwlch hwn, bydd y Cyngor yn parhau i geisio gwella’r modd y mae'n darparu gwasanaethau a, thrwy ymgysylltu'n barhaus â dinasyddion, cymunedau a rhanddeiliaid eraill, bydd yn ystyried ei flaenoriaethau ar gyfer gwasanaethau’r dyfodol yn ofalus. ​

Archif y Gyllideb

​​









© 2022 Cyngor Caerdydd