Mae Cynllun Grantiau’r Cyfamod Cymunedol yn grant a roddir gan y llywodraeth i ariannu prosiectau lleol a fydd o fudd i'r lluoedd arfog a'r gymuned.
Gall unrhyw ran o'r gymuned gyflwyno ceisiadau am gyllid, er enghraifft:
- Grwpiau gwirfoddol
- Elusennau
- Cyrff Cyhoeddus
- Cyrff preifat
Bydd Bwrdd Llywodraethu Cyfamod Cymunedol lleol y Lluoedd Arfog yn ystyried pob cais am grantiau. Byddant wedyn yn cyflwyno ceisiadau y maent yn hapus i'w cymeradwyo i baneli rhanbarthol y Cynllun Grantiau’r Cyfamod Cymunedol i'w hystyried.Bydd y paneli'n ystyried pob cais yn erbyn eu blaenoriaethau a'u meini prawf cymhwysedd.
I gael gwybodaeth am flaenoriaethau, cymhwysedd a'r broses ymgeisio, darllenwch: