Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Petrolewm

​​Rhaid i chi gael trwydded os ydych yn storio petrolewm at ddibenion masnachol neu fanwerthu, a’i fod yn cael ei ddosbarthu'n electronig neu’n fecanyddol.


At ddibenion trwyddedu, mae ‘petrolewm’ yn cynnwys unrhyw gynnyrch petrolewm crai, sydd â fflachbwynt tan 21 canradd. Mae’n cynnwys:


  • petrol
  • bensen
  • pentan


    Nid yw’n cynnwys gwirod gwyn, paraffin, olew disel neu olewau tanwydd.

     

    Oriau Agor

     

    Dydd Llun - Dydd Iau:        8.30am – 5pm

    Dydd Gwener:        8.30am – 4pm

    Faint mae’n ei gostio?


    Mae’r ffi yn amrywio yn dibynnu ar nifer y litrau rydych yn ei storio. Os hoffech drafod pa ffi fydd yn rhaid i chi ei thalu cyn dychwelyd eich ffurflen gais, cysylltwch â ni .



    Beth sy'n digwydd nesaf?


    Unwaith y byddwn yn cael y cais, bydd arolygiad o’r safle i sicrhau bod y sawl sy’n storio ac yn dosbarthu’r petrol yn gwneud hynny mewn ffordd ddiogel nad yw’n peryglu’r cyhoedd na’r amgylchedd.


    Bydd yr arolygwyr yn edrych ar gyflwr y cwrt blaen, gan sicrhau nad oes gollyngiadau a bod mesurau ar waith (gan gynnwys bod offer perthnasol ar gael) rhag ofn bod tân. Byddant yn darllen cofnodion y safle i weld a yw’r tanciau storio’n cael eu monitro’n rheolaidd a bod gweithdrefnau iechyd a diogelwch yn cael eu dilyn.

     

    Os hoffech ragor o help neu gyngor cysylltwch â ni


    Cysylltu â ni​​


    © 2022 Cyngor Caerdydd