Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Adolygu’r ddeddf drwyddedu

​​Cyflwynodd Deddf Drwyddedu 2003 a deddfwriaeth gysylltiedig gyfres o fesurau i alluogi delio â safleoedd problemus. Un o’r mesurau mwyaf pwerus oedd rhoi system adolygu trwyddedau ar waith.


Gall awdurdodau neu bobl gyfrifol sy’n byw yn ardal safle trwyddedig wneud cais i’r awdurdod lleol adolygu’r drwydded.


Mae modd gofyn i adolygu trwydded safle pan fo tystiolaeth fod problemau’n gysylltiedig â’r amcanion trwyddedu, sef:


  • atal trosedd ac anrhefn
  • diogelwch y cyhoedd
  • atal niwsans cyhoeddus
  • amddiffyn plant rhag niwed

Sut i wneud cais i adolygu trwydded



Cyn ymgeisio rydym yn argymell darllen Adran 11 o'r Canllaw a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Gartref.​​​​​​

Ffurflen gais adolygu trwydded safle (200kb PDF)​​​​​​​​​​​​​.


Cwblhewch y ffurflen a’i dychwelyd i ni yn y post neu mewn person:


Trwyddedu,
Cyngor Caerdydd,
Neuadd y Sir,
Glanfa'r Iwerydd,
Caerdydd,
CF10 4UW​​



 

Ar hyn o bryd, gallwch ofyn i drwydded gael ei hadolygu am ddim.

 

Bydd yr Adran Drwyddedu yn hysbysebu’r cais am adolygiad ac yn hysbysu’r holl awdurdodau cyfrifol.

 

Cynhelir cyfnod ymgynghori am 28 diwrnod o’r dyddiad y daw’r cais i law.

 

Bydd yr Is-bwyllgor Trwyddedu yn cynnal gwrandawiad, yn ystyried y cais ac ar ôl clywed barn pob ochr yn dod i benderfyniad ynghylch y mater.  

 

Os bydd yr Is-bwyllgor yn barnu fod y safle yn methu â hyrwyddo unrhyw rai o’r amcanion trwyddedu mae gan yr Is-bwyllgor ystod o bwerau i fynd i’r afael â’r mater gan gynnwys diwygio/tynnu’r gweithgareddau trwyddedadwy, ychwanegu amodau at y drwydded, ac atal neu ddirymu’r drwydded.




Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â ni.

Cysylltu â ni​​

Ffôn Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir: 0300 123 6696 (dilynwch yr opsiynau ar gyfer Trwyddedu Caerdydd).


Mae llinellau ffôn ar agor rhwng 10am a 3pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

​​
© 2022 Cyngor Caerdydd