Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Gorchymyn Rheoleiddio Traffig Dros Dro

​​​
Rydym yn gwneud Gorchymyn Rheoli Traffig Dros Dro (GRhTDD) yn ôl yr angen i stopio neu gyfyngu ar draffig cerbydau a/neu gerddwyr ar hyd y briffordd.

Ble mae GRhTDDau yn cael eu defnyddio?


Gellir gwneud cais am GRhTDDau ar gyfer ffyrdd, troedffyrdd neu Hawliau Tramwy Cyhoeddus (HTCau). Gallwn wneud GRhTDD:


  • ar gyfer sefyllfa a gynlluniwyd, neu Hysbysiad Brys os oes angen cyfyngiad ar unwaith ar gyfer sefyllfa nas cynlluniwyd.
  • i alluogi gwaith hanfodol ar y briffordd, fel gosod neu gynnal a chadw gwasanaethau fel nwy, trydan neu ddŵr
  • ar gyfer gwaith ger y briffordd fel datblygiadau mawr.


Mathau cyffredin o GRhTDDau:

  • Cau ffyrdd
  • Cyfyngiad aros
  • Cyfyngiadau pwysau
  • Gwaharddiadau Parcio a Lonydd Bws


Gallant hefyd fod ar ffurf:

  • Gwahardd troi
  • Cyfyngiad unffordd
  • Cyfyngiad cyflymder neu
  • Wahardd mynediad

Sut mae gwneud cais?


Gwnewch cais GRhTDD ar-lein​​​​​​​​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd. Bydd angen i chi gofrestru yn gyntaf ac yna dewis y ddolen at ‘Gorchmynion Traffig Dros Dro’ o’r gwymplen. 

Faint fydd y gost?




Ffioedd GRhTDD
Math o GRhTDDFee
Hysbysiad brys
£2,800
​Gorchymyn 18 mis
​£3,500
​Digwyddiad cymunedol (llai na 500 o bobl yn mynychu)
£1,000​
​Digwyddiad mawr (dros 500 o bobl yn mynychu)
​£2,000

Beth sy’n digwydd nesaf?


Pa fyddwch yn cyflwyno eich cais, bydd angen iddo gael ei asesu’n gyntaf i sicrhau bod yr holl fanylion angenrheidiol wedi’u cwblhau. Pan fydd eich cais wedi ei gymeradwyo, a’r broses GRhTDD wedi ei chwblhau, byddwch yn derbyn cadarnhad drwy e-bost gyda’r dogfennau a’r llythyr eglurhaol. Gallwch fewngofnodi i weld statws eich cais GRhTDD​​​​​​​​​​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd​ ​ar unrhyw gam.​
​​​
© 2022 Cyngor Caerdydd