Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Trwyddedau Byrddau A

​​​​​​​​​Yn gyffredinol adnabyddir arwyddion hysbysebu a osodir ar y briffordd fel Byrddau A​​. Os yw’r ardal lle y caiff bwrdd H ei osod yn rhan o’r briffordd, yna’n unol â Deddf Priffyrdd 1980 mae angen i chi wneud cais i’r Cyngor am drwydded.


Polisi Byrddau A (1255kb PDF)​​​​​​​

Sut mae gwneud cais?​

Gallwch wneud cais ar-lein am drwydded Byrddau A.  Gallai fod angen i chi greu cyfrif yn gyntaf. 


Cost cais am drwydded newydd yw £252.45. Os ydych yn adnewyddu cais yna £186.08 yw’r gost. ​


Rhaid i chi ddarllen y telerau ac amodau cyn gwneud cais.


Beth nesaf?

Pan wneir eich cais, bydd angen i swyddog y Cyngor ei asesu’n gyntaf i sicrhau ei fod yn gymwys. Byddwch yn derbyn cadarnhad drwy e-bost o ran a yw’ch cais wedi bod yn llwyddiannus ar ôl iddo gael ei adolygu. 


Ni fyddwch yn gallu gosod eich bwrdd H ar y briffordd nes y byddwch wedi derbyn eich trwydded, hyd yn oed os yw’ch cais yn aros am benderfyniad.

Cosbau

Os nad ydych yn glynu at y telerau ac amodau gallech gael eich erlyn.


Mewn rhai amgylchiadau pan fo busnesau’n methu â chydymffurfio â’r telerau ac amodau, neu pan fo’r Byrddau H yn peryglu’r cyhoedd, gall swyddog y Cyngor eu symud o’r briffordd. Bydd wedyn yn cael ei storio am 14 diwrnod ar gost y perchennog, neu caiff ei ddinistrio.​ 


Cysylltu â ni

 ​​​​​​​​​​​
© 2022 Cyngor Caerdydd