Caniatâd i ddefnyddio’r Briffordd Gyhoeddus ar gyfer Craeniau, Troshwyl Craen a Llwyfannau Uchel Symudol (Casglwyr Ceirios) drwy gyflwyno trwyddedau gan y Cyngor fel yr Awdurdod Priffyrdd dan Ddeddf Priffyrdd 1980.
Mae eitemau sy'n cael eu rhoi ar y briffordd heb drwydded ddilys yn rhwystr anghyfreithlon a gall y Cyngor gymryd camau gorfodi mewn achosion o'r fath.
Rhestr wirio ymgeiswyr
Ni fydd y cais hwn yn cael ei dderbyn oni bai bod copi o’r eitemau canlynol yn cael eu hatodi.
- Copi
o Dystysgrif Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus eich cwmni (£10.000.000).
- Cynllun Rheoli Traffig – Rhaid i’r cais hwn gynnwys llun o bob arwydd perthnasol, sy’n cyfarwyddo traffig a cherddwyr yn eglur ac yn ddiogel o amgylch y craen. Rhaid iddo hefyd gynnwys unrhyw lwybr o wyriad os yw’n berthnasol.
- Unrhyw gynlluniau neu ddiagramau perthnasol o’r safle, a llun yn dangos pa mor bell y mae braich y craen yn ymestyn dros y briffordd.
- Cadarnhad o unrhyw Ffyrdd /Mannau Parcio/ Arosfannau bws fydd yn cau dros dro (os yn berthnasol).
- Copïau o Dystysgrifau Cyfredol neu Dystysgrifau Gweithredwyr Craen, Rigwyr a gweithwyr eraill sy’n ymwneud â Gweithredu’r Craen.
Noder: Bydd eich cais yn cael ei wrthod os yw’n anghywir neu os oes gwaith papur anghyflawn yn cael ei gyflwyno.
Cost
Cost ar gyfer craeniau
Craeniau symudol
| £900
|
Craen tŵr uwchben | £190 (am bob 28 diwrnod ar y briffordd)
|
Cost ar gyfer craeniau hydrolig/llwyfan gwaith codi symudol (MEWP)
O dan 10 metr sgwâr
| £188
|
Dros 10 metr sgwâr
| £312
|
Cosb ar gyfer peidio â chadw at y telerau ac amodau
Bydd camau gorfodi yn arwain at Hysbysiad Cosb Benodedig o £100 a-r ffi drwydded broidol.
Bydd yr Hysbysiadau Cosb Benodedig o hyd at £100 yn cael eu gorfodi hefyd os nad yw'r Telerau ac Amodau yn cael eu dilyn.
Mae cyfarwyddwr y cwmni neu'r swyddog awdurdodedig yn gyfrifol am sicrhau y glynir at yr holl Delerau ac Amodau.
Sut i wneud cais
Ffurflen gais craen, braich craen a cherry picker
1. Rhaid i’r Prif Weithredwr wneud pob cais. Cedwir eu manylion gan Gyngor Caerdydd a byddan nhw’n gyfrifol am bob mater yn ymwneud â'r ‘craen bach/peiriannau/offer’ a'u defnydd ar y brifforddfabwysiedig.
2. Rhaid i Ddeiliad y Drwydded sicrhau mai pobl sydd wedi’u hyfforddi’n llawn, sy’n gymwys ac wedi’u hardystio sy’n defnyddio’r craen bach/peiriannau/offer.
3. Deiliad y Drwydded sy’n gyfrifol am unrhyw ddifrod a achosir drwy osod y craen bach/peiriannau/offer i fyny, eu defnyddio a'u datgymalu. Mae Cyngor Caerdydd yn cadw’r hawl i drwsio unrhyw ddifrod I wyneb y ffyrdd neu droedffyrdd, celfi stryd, golau stryd neu unrhyw eitem arall y mae’r Cyngor yn ei gynnal a’i gadw. Deiliad y Drwydded fydd yn talu unrhyw gostau fydd Cyngor Caerdydd yn eu hwynebu yn sgil difrod mewn perthynas â'r ‘craen bach/peiriannau/offer’.
4. Rhaid i’r Deiliad nodi y gall Cyngor Caerdydd, os yw'n ei ystyried yn rhesymol i wneud hynny, derfynu’r drwydded heb rybudd. Ar adegau felly rhaid rhoi’r gorau i weithio a datgymalu’r craen bach/peiriannau/offer a’u symud o’r briffordd ar unwaith.
5. Deiliad y Drwydded sy’n gyfrifol am ddarparu a chynnal a chadw Arwyddion, Goleuo ac unrhyw Warchodwyr yn unol â Phennod 8.
6. Ni ddylid gosod unrhyw ‘Graen bach/peiriannau/offer’ ar y briffordd fabwysiedig nes i Gyngor Caerdydd roi caniatâd.
7. Rhaid i Ddeiliad y Drwydded hysbysu'r Adran Briffyrdd os oes unrhyw oedi mewn perthynas â'r cais hwn, a rhaid gwneud cais os am gadw'r offer yn hirach na'r dyddiadau sydd wedi'u nodi o dan y Drwydded.
8. Rhaid i gopi o’r drwydded hon gael ei chadw ar y safle gan Weithredwyr y Craen bach/peiriannau/offer, ynghyd â chopïau o’r datganiadau o ddull a chynlluniau rheoli traffig. Deiliad y Drwydded sy’n gyfrifol am sicrhau bod pob gweithredwr yn llwyr ymwybodol o’r Telerau ac Amodau y mae’r Drwydded yn ddibynnol arnynt.
Cosb am beidio â chydymffurfio
Bydd Deiliad y Drwydded yn talu costau llawn unrhyw gamau gan Gyngor Caerdydd i unioni am dor-amodau neu drwsio unrhyw ddifrod.
Indemniad Cyfreithiol
Bydd Deiliad y Drwydded yn indemnio, a chadw wedi’i indemnio, Gyngor Caerdydd a’i/neu ei weision a’I asiantau yn erbyn unrhyw atebolrwydd, o bob hawliad, gofynion, camau, costau ac iawndaliadau sy’n codi o, neu o ganlyniad i godi craen bach/peiriannau/offer ar y lôn gerbydau, troedffordd neu lain laswellt. Mae cyfnod yr indemniad yn dechrau pan mae’r offer yn cael ei osod, ac yn gorffen pan mae’n cael ei symud yn llwyr. Rhaid i swm y polisi yswiriant fod yn £5,000,000 am bob un digwyddiad unigol, gydag yswiriwr cydnabyddedig. Pan fo’n ofynnol, rhaid i Ddeiliad y Drwydded ddangos y polisi neu bolisïau yswiriant a derbynebau taliad y polisi cyfredol i'r Awdurdod
Beth sy'n digwydd nesaf?
Unwaith i'r cais gael ei dderbyn caiff ei brosesu ac fe gysylltir â chi i dderbyn taliad drwy Gerdyn Debyd/Credyd.
Rhaid gwneud taliad yn llawn cyn y gellir cyhoeddi trwydded.
Os nad yw'r cais yn cael ei gymeradwyo, bydd Cyngor Caerdydd yn cysylltu â chi gyda'r rhesymau dros wrthod caniatâd yn yr achos hwn.
Cysylltu â ni