Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Dim Archeb Brynu Dim Talu

O 1 Mai 2018 byddwn yn gwneud rhai newidiadau i’r ffordd rydym yn delio ag anfonebau.

  1. ​Rydym yn canoli derbyn anfonebau ar gyfer mwyafrif yr archebion prynu safonol o 1 Mai. O’r dyddiad hwn, caiff y rhan fwyaf o anfonebau eu hanfon i’n tîm Cyfrifon Taladwy canolog. Sicrhewch eich bod yn sylwi ar y cyfeiriad a roddir ar eich archebion prynu wrth anfon eich anfoneb atom. Bydd anfonebau a anfonir i’r cyfeiriad anghywir yn cymryd hirach i’w prosesu.

  2. Rydym yn rhoi ein Polisi Dim Archeb Brynu Dim Talu ar waith. O 1 Mai, ni chaiff anfonebau sy’n dod i law heb rif archeb brynu dilys eu talu. Caiff y rhain eu dychwelyd atoch a bydd yn rhaid i chi gysylltu â’r sawl y cymroch yr archeb ganddynt i gael rhif archeb brynu. Mae hwn yn fesur rheoli ariannol allweddol i’r Cyngor, gan sicrhau fod yr holl daliadau’n cael eu hawdurdodi’n gywir yn ein system ERP. Mae hyn hefyd yn helpu i broses anfonebau’n gynt.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i’r dudalen Polisïau, Gweithdrefnau a Chanllawiau Comisiynu a Chaffael.

Pan nodir hyn ar yr archeb brynu, dylai anfonebau gael eu hanfon i: AP@caerdydd.gov.uk 

O ran ymholiadau am eich anfonebau cysylltwch â: financepaymentsinvoices@caerdyd.gov.uk.


© 2022 Cyngor Caerdydd