Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Cyflenwi i Gyngor Caerdydd

​​​​​​​​Nod ein canllaw gwerthu i Gyngor Caerdydd ar gyfer cyflenwyr a chontra​ctwyr (1,571kb PDF)​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd yw helpu darparwyr a chontractwyr posibl i ddeall sut mae Cyngor Dinas Caerdydd yn prynu nwyddau, gwasanaethau a gwaith ar hyn o bryd ac i'w helpu i gael gwybod mwy am gyfleoedd a pharatoi am waith.

Mae’r wybodaeth a geir yn y dogfennau hyn wedi’u dylunio i’w hargraffu. Mae’n bosib na fydd modd gweld popeth ar-lein.
​​



Safonau’r Gymraeg​


Mae angen i sefydliadau sy’n cael eu comisiynu i ddarparu gwasanaethau i Gyngor Caerdydd gydymffurfio â Safonau’r Gymraeg (a gyhoeddwyd i’r Cyngor) lle maent yn berthnasol i’r gwasanaeth/contract penodol hwnnw. Mae’r Canllaw Safonau'r Gymraeg i Drydydd Partion (973kb PDF)​​​​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd​​ atodedig yn crynhoi gofynion y safonau gyda’r nod o helpu sefydliadau i gydymffurfio â’r gofynion.

Polisi Chwythu'r Chwiban 

Mae’r Cyngor yn ymrwymo wrth y safonau didwylledd, cywirdeb ac atebolrwydd uchaf posibl.  Yn unol â’r ymrwymiad hwnnw, rydym yn disgwyl i weithwyr a phobl eraill rydym yn ymdrin â nhw sydd â phryderon sylweddol am unrhyw agwedd ar waith y Cyngor leisio’r pryderon hynny. Mae staff contractwyr wedi’u cynnwys ym Mholisi Chwythu'r Chwiban (279kb PDF)​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd​​ y Cyngor a dylent roi gwybod i’r Cyngor am unrhyw bryderon ynghylch ymddygiad staff y Cyngor neu faterion y mae'r Cyngor yn atebol amdanynt.  Ymchwilir yn llawn, yn deg ac yn gyfrinachol i bob pryder.  I gael rhagor o fanylion, cyfeiriwch at bolisi'r Cyngor.


Sut i gofrestru

I ddod yn gyflenwr i Gyngor Caerdydd, bydd rhaid i chi gofrestru i gael eich cynnwys yng ngyfeirlyfr cyflenwyr corfforaethol y cyngor.


Cofrestru ar-lein​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd

 

Byddem yn argymell y dylai cyflenwyr hefyd gofrestru gyda phorth caffael sector cyhoeddus Llywodraeth Cymru i gyflenwyr a phrynwyr o Gymru GwerthwchiGymru​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd

 

Bydd cofrestru ar-lein yn eich galluogi i ddiweddaru eich proffil yn ôl y galw,  bydd yn eich galluogi i chwilio am gyfleoedd tendro Cyngor Caerdydd a gweld yr holl fanylion, yn ogystal â chyfleoedd yn sefydliadau eraill a bydd yn ein galluogi ni i gysylltu â chi yn fwy effeithlon mewn cysylltiad â chyfleoedd tendro presennol ac yn y dyfodol.

Cyflog Byw

Mae Cyngor Dinas Caerdydd yn gyflogwr Cyflog Byw.


Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltu â ni


Cysylltu â ni

 

​​
© 2022 Cyngor Caerdydd