Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Cyngor i ddefnyddwyr

​​Ein gwaith


Mae ein tîm Safonau Masnach yn helpu i hyrwyddo amgylchedd teg a diogel i fasnachu yng Nghaerdydd. Gwnawn hyn drwy helpu cwsmeriaid a busnesau mewn ffordd ddiduedd.

 

Mae ein tîm yn:

 

  • ymchwilio i adroddiadau o dorri safonau masnach yn erbyn busnesau, fel gwerthu i unigolion dan oed a disgrifiadau camarweiniol
  • gorfodi’r gyfraith a gweithredu yn erbyn masnachwyr nad ydynt yn masnachu’n deg
  • helpu i addysgu masnachwyr am eu rhwymedigaethau a’u hawliau.

 

Rydym yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau gan gynnwys:


  • cyngor ar gyfraith defnyddwyr
  • ymweliadau â’r cartref i bobl ddiamddiffyn (a all gynnwys help gydag ysgrifennu llythyrau a darllen drwy waith papur)
  • swyddog penodedig sy’n delio â phobl sydd wedi dioddef o ganlyniad i dwyll drwy’r post
  • ymateb cyflym i bobl sy’n dioddef o drosedd ar garreg y drws (mewn cydweithrediad â’r heddlu)
  • cyfraith defnyddwyr i fusnesau, asiantau a chynghorau eraill
  • help os oes yn rhaid i chi fynd i’r Llys Sirol, fel paratoi ffurflenni llys a'ch cynorthwyo â’r broses gyfreithiol
  • deunydd addysgiadol, digwyddiadau, sioeau ffordd a gwaith allgymorth.


    Gwasanaeth Cyfryngu


    Rydym yn cynnig gwasanaeth cyfryngu am ddim lle gallwn fod yn gyfryngwr trydydd parti am ddim a helpu i ddatrys anghytundeb.  


    Ymhlith nodweddion a manteision cyfryngu mae:


    • cydweithio wrth ddatrys anghydfod
    • galluogi pawb i gydweithio i ddod o hyd i ateb
    • cydnabod teimladau, a ffeithiau caled
    • ystyried atebion ymarferol a chreadigol
    • gall fod yn llawer cynt ac yn llawer rhatach na mynd i’r llys.

     

    Mae llysoedd yn annog y defnydd o gyfryngu gan ei fod yn cael ei ystyried yn ffordd amgen o ddatrys anghydfod cyfreithiol. I gael rhagor o wybodaeth am y gwasanaeth cyfryngu cysylltwch â ni

     

    Gwneud ymholiad neu roi gwybod am broblem​​​​​​​​​​​​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd 


    0345 4040 505​

    © 2022 Cyngor Caerdydd