Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Pryd mae angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu?

Mae cydymffurfio â rheoliadau adeiladu yn ofyniad cyfreithlon a’r person sy’n cyflawni’r gwaith a/neu’r person sy’n comisiynu’r gwaith sy’n gyfrifol am hyn. 


Yn dilyn proses gymeradwyo rheoliadau adeiladu’r Cyngor cewch dystysgrif yn nodi bod y gwaith hwnnw wedi’i gwblhau a fydd yn rhoi tystiolaeth, ond nid tystiolaeth bendant, fod y gwaith/adeilad wedi’i gwblhau yn cydymffurfio â’r gofynion statudol perthnasol. 


Mae angen cymeradwyaeth pan wnewch waith a ddiffinnir yn Rheoliad 3 y rheoliadau adeiladu​​​​​​​​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd; mae hyn yn cynnwys y gwaith canlynol ond nid yw’n gyfyngedig iddo:


  • Codi neu ymestyn adeilad,
  • Newid adeilad yn sylweddol, e.e. addasu’r strwythur,
  • Ymestyn neu addasu gwasanaeth a reoleiddir neu osodiad mewn adeilad e.e. gosod toiled,
  • Newid defnydd neu ddiben sylfaenol yr adeilad, neu
  • Osod ffenestri neu ddrysau newydd trwy ddefnyddio person/cwmni nad yw wedi’i gofrestru gyda FENSA.

 

Nodwch y caiff y rheoliadau eu diweddaru a’u hadolygu’n gyson gan Lywodraeth Cymru felly argymhellir eich bod bob amser yn cyfeirio at y ddeddfwriaeth ar gyfer yr addasiadau a’r gofynion diweddaraf.  

 

Gall banciau a chymdeithasau adeiladu ofyn am gadarnhad y bydd cynigion, neu waith wedi’i gwblhau, yn cydymffurfio â’r rheoliadau cyn y byddant yn fodlon cynnig benthyciad neu forgais i chi. Cadwch ddogfennau wedi’u cyhoeddi yn ystod y broses hon yn ddiogel gan y bydd eu hangen ar gyfreithwyr sy’n gwneud unrhyw waith trosglwyddo os byddwch yn penderfynu gwerthu’r eiddo yn y dyfodol. 


Mae gwneud gwaith adeiladu heb y caniatâd priodol yn drosedd a gallwch dderbyn dirwy, wedi euogfarn, o hyd at £5,000. 


Am fwy o fanylion, gan gynnwys eithriadau rheoliadau adeiladu, ewch i’r wefan Planning Portal​​​​​​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd​​ neu’r wefan Rheolaeth Adeiladu Awdurdodau Lleol (LABC)​​​​​​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd.


A allaf gael cymeradwyaeth ôl-weithredol os yw’r gwaith eisoes wedi’i gwblhau? 


Os gwnaed gwaith adeiladu heb y gymeradwyaeth rheoliadau adeiladu angenrheidiol, bydd yn anodd gwerthu’r eiddo neu ail-forgeisio. Ond gallwch gael cymeradwyaeth ôl-weithredol ar gyfer gwaith a wnaed ar ôl 11 Tachwedd 1985. 


Nid yw’r ffi ar gyfer y math hwn o gymeradwyaeth ‘ôl-weithredol’ yn denu TAW ond mae 150% o’r ffi arferol (cyn TAW) fel y nodir yn y tablau ffioedd. 


Bydd syrfëwr yn cysylltu â chi i ymweld â’r safle a gwerthuso’r hyn sydd wedi’i wneud. Efallai y bydd angen i chi ddatgelu rhannau penodol o’r gwaith adeiladu a gwneud rhywfaint o waith adferol cyn y gallwn gael gwybod a gydymffurfir â gofynion perthnasol y rheoliadau adeiladu a rhoi tystysgrif cwblhau unioni i chi.


Lawrlwythwch ffurflen gais ar gyfer cymeradwyaeth ôl-weithredol (781kb PDF)​​​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd​​ a elwir yn unioni. Am fwy o wybodaeth neu gyngor ar y broses cysylltwch â ni.

Cysylltu â ni

rheoliadeiladu@caerdydd.gov.uk


Gellir cysylltu â​ ni ar unrhyw un o'r rhifau canlynol:


​​​029 2233 0383

​029 2233 0382

029 2233 0381​

  

​​​​​​​​
© 2022 Cyngor Caerdydd