Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Cymorth a Chyllid i Fusnesau

​​Caerdydd: Prifddinas Llawn Cyfleoedd

Caerdydd yw’r ddinas sy’n tyfu fwyaf yn y DU a disgwylir i’r boblogaeth dyfu’n gynt nag unrhyw o’r Dinasoedd Craidd eraill dros y 20 mlynedd nesaf. Mae hefyd gan y ddinas un o’r economïau sy’n tyfu gyflymaf yn y DU, gan greu mwy o swyddi nag unrhyw o Ddinasoedd Craidd y DU rhwng 2000 a 2010 a chynnydd yn yr arian y mae ymwelwyr yn ei wario sef dros £400 miliwn yn y pum mlynedd diwethaf sydd i gyda wedi’i gefnogi gan un o’r gweithluoedd mwyaf cymwys yn y DU ac ansawdd bywyd sydd ar ben graddfeydd cenedlaethol yn gyson. 


Mae hefyd gyswllt da gennym â’n rhanbarth a gweddill y DU oherwydd rhwydwaith rheilffordd ranbarthol gyda bron i 90 o orsafoedd a phoblogaeth o 1.6 miliwn o bobl o fewn amser gyrru o 45 munud. Yn ogystal mae Caerdydd yn un o'r unig bedair dinas yn y DU gyda chyfnewidfa rhyngrwyd, ac un o’r graddfeydd uchaf o bŵer cyflym iawn ar gyfer busnes.


Ei photensial am fuddsoddiad yw’r hyn sy’n rhoi Caerdydd ar wahân.   Gyda £6 miliwn ar y ffordd i gael ei fuddsoddi yn seilwaith busnes, mae’r ymrwymiad eisoes ar waith i symud cam datblygu nesaf y ddinas yn ei flaen, a fydd hefyd yn cynorthwyo gyda hybu Prifddinas-ranbarth Caerdydd fel lleoliad penigamp ar gyfer buddsoddiad busnes a thwristiaeth. 


Am fwy o wybodaeth am gyfleoedd Buddsoddi yng Nghaerdydd, ewch i www.investincardiff.com​​​​​​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd​​

Caerdydd: Ein Prifddinas Gystadleuol

Caerdydd: Ein Prifddinas Gystadleuol yw ei cyhoeddiad newydd sy’n dynnu sylw at amrywiaeth o wybodaeth, ystadegau a data ar Gaerdydd.

 

Mae’r cyhoeddiad yn dweud mwy am ein dinas wych i fuddsoddwyr, datblygwyr, entrepreneuriaid, perchnogion busnes ac unrhyw un arall sydd â diddordeb yng Nghaerdydd, gan gynnwys ystadegau, demograffeg, yr amgylchedd, gwaith, twristiaeth, teithio, cysylltedd, cymorth busnes, cryfderau sector ac eiddo.  Mae hefyd yn cynnwys sylwadau gan fusnesau sydd wedi’u lleoli yma sy’n esbonio yn syml, “Pam Caerdydd?”
 

Lawrlwythwch y cyhoeddiad Caerdydd: Ein Prifddinas Gystadleuol (4.78mb PDF)​​​​​​​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd

Ardal Fenter Caerdydd 

Mae Ardal Fenter Caerdydd Ganolog, a ddynodwyd gan Lywodraeth Cymru, yn ardal fusnes 140 o erwau (56.656 o hectarau) yng nghanol y ddinas sy’n ymgorffori gorsaf drenau Caerdydd Ganolog. 


Mae amrywiaeth o gynlluniau cymell ar gael o bosibl i fusnesau cymwys a mynediad i 1.6 miliwn o bobl o fewn taith gymudo o 45 munud.   


Gall y tîm datblygu economaidd gydlynu cynlluniau cymorth Cyngor Dinas Caerdydd ochr yn ochr â chyllid gan lywodraeth Cymru a chyrff eraill.


Dysgwch fwy am Barth Fenter Caerdydd Ganolog​​​​​​​​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd​​


Ardaloedd a Gynorthwyir

Ardaloedd a gynorthwyir yw’r ardaloedd hynny lle gellir cael cymorth rhanbarthol yn unol â rheolau cymorth y wladwriaeth.  Yng Nghymru mae cymorth ariannol yn ôl disgresiwn ar gael ar gyfer busnesau a nodir graddfeydd cymorth mewn canllawiau wedi’u cyhoeddi. ​​


Cysylltu â ni

Mae gan Gaerdydd nifer o nodweddion sydd ei rhoi ar wahân i brifddinasoedd eraill – busnes hawdd ei wneud a lle gwych i fyw.  Rydym am eich helpu i wneud y dewis cywir o ran buddsoddiad.

Dysgwch fwy am ein lleoliad, sut mae ein dinas â band eang cyflym iawn a’n twf cyffrous. Gwelwch eich cyhoeddiadau buddsoddi. Cysylltwch â ni i ddysgu mwy neu drafod buddsoddiad gydag aelod o’n tîm.


Cysylltu â ni


​​​​​​​

​​

 
 
​​
© 2022 Cyngor Caerdydd