Gallwch wneud taliadau gan ddefnyddio unrhyw un o’r dulliau isod:
Trefnu Debyd Uniongyrchol
Fel arall cysylltwch â ni drwy ffonio 029 20871491.
Dylid dychwelyd ffurflenni cais ar ôl eu cwblhau i:
Cyngor Caerdydd
Blwch SP 9000
Caerdydd
CF10 3WD
Talu'ch bil Ardrethi Busnes ar-lein
Defnyddiwch ein system talu ar-lein ddiogel i dalu’ch bil Ardrethi Busnes.
Sicrhewch fod eich rhif cyfrif a’ch manylion talu wrth law gennych. Mae rhif eich cyfrif yn 11 digid o hyd ac yn dechrau gyda 1.
System daliadau awtomatig dros y ffôn
Gallwch ddefnyddio cerdyn debyd neu gredyd i dalu dros y ffôn. System daliadau awtomatig 24 awr yw hon.
Bydd angen y canlynol arnoch cyn i chi ffonio:
- rhif cyfrif eich Ardrethi Busnes,
- eich Cerdyn Debyd neu Gredyd,
-
y swm rydych am ei dalu.
Ffoniwch 029 2044 5900. Dilynwch y cyfarwyddiadau i wneud eich taliad.
Drwy’r Post
Anfonwch eich siec / archeb bost ynghyd â’ch cerdyn talu i:
Cyngor Caerdydd
Blwch SP 9000
Caerdydd
CF10 3WD
Dylid croesi sieciau a’u gwneud yn daladwy i ‘Cyngor Caerdydd’. Ni ddylid anfon sieciau at unrhyw swyddog unigol.
Ni dderbynnir sieciau ôl-ddyddiedig.
Peidiwch ag anfon arian parod drwy’r post.
I gael rhagor o wybodaeth neu gyngor mae croeso i chi gysylltu â ni
Cysylltu â ni
029 20871491